1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2. “Gorchymyn bobl Israel, a dywed wrthynt, ‘Pan fyddwch yn mynd i mewn i wlad Canaan, bydd terfynau'r wlad a gewch yn etifeddiaeth fel a ganlyn:
3. i'r de bydd yn ymestyn o anialwch Sin a heibio i Edom, ac yn y dwyrain bydd eich terfyn deheuol yn ymestyn o ben draw Môr yr Heli,
4. ac yn troi o lethrau Acrabbim a throsodd i Sin, ac yna i'r de o Cades-barnea; oddi yno â ymlaen i Hasar-adar a throsodd i Asmon;
5. yna fe dry'r terfyn o Asmon at nant yr Aifft, a gorffen wrth y môr.
6. “ ‘I'r gorllewin, y terfyn fydd y Môr Mawr a'r arfordir; hwn fydd eich terfyn gorllewinol.
7. “ ‘Dyma fydd eich terfyn i'r gogledd: tynnwch linell o'r Môr Mawr i Fynydd Hor,
8. ac o Fynydd Hor i Lebo-hamath; bydd y terfyn yn cyrraedd hyd Sedad,
9. yna'n ymestyn i Siffron, a gorffen yn Hasar-enan; dyma fydd eich terfyn gogleddol.
10. “ ‘Ar ochr y dwyrain, tynnwch linell o Hasar-enan i Seffan;
11. fe â'r terfyn i lawr o Seffan i Ribla, i'r dwyrain o Ain, ac yna i lawr ymhellach ar hyd y llechweddau i'r dwyrain o Fôr Cinnereth;
12. yna fe â'r terfyn i lawr ar hyd yr Iorddonen, a gorffen wrth Fôr yr Heli. Hon fydd eich gwlad, a'r rhain fydd ei therfynau oddi amgylch.’ ”
13. Rhoddodd Moses orchymyn i bobl Israel, a dweud, “Dyma'r wlad yr ydych i'w rhannu'n etifeddiaeth trwy goelbren, a'i rhoi i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD;
14. y mae llwythau teuluoedd meibion Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn eu hetifeddiaeth;
15. derbyniodd y ddau lwyth a hanner eu hetifeddiaeth hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, tua chodiad haul.”
16. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
17. “Dyma enwau'r dynion sydd i rannu'r wlad yn etifeddiaeth i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua fab Nun.
18. Cymerwch hefyd un pennaeth o bob llwyth i rannu'r wlad yn etifeddiaeth.
19. Dyma eu henwau: o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne;
20. o lwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud;
21. o lwyth Benjamin, Elidad fab Cislon;
22. o lwyth meibion Dan, y pennaeth fydd Bucci fab Jogli;
23. o feibion Joseff: o lwyth meibion Manasse, y pennaeth fydd Haniel fab Effad;
24. o lwyth meibion Effraim, y pennaeth fydd Cemuel fab Sifftan;
25. o lwyth meibion Sabulon, y pennaeth fydd Elisaffan fab Parnach;
26. o lwyth meibion Issachar, y pennaeth fydd Paltiel fab Assan;
27. o lwyth meibion Aser, y pennaeth fydd Ahihud fab Salomi;
28. o lwyth meibion Nafftali, y pennaeth fydd Pedahel fab Ammihud.
29. Dyma'r dynion y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu'r etifeddiaeth i bobl Israel yng ngwlad Canaan.”