Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Buddugoliaeth dros Ganaan

1. Pan glywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef, fod yr Israeliaid yn dod ar hyd ffordd Atharaim, ymosododd arnynt a chymryd rhai ohonynt yn garcharorion.

2. Gwnaeth Israel adduned i'r ARGLWYDD, a dweud, “Os rhoddi di'r bobl hyn yn ein dwylo, yna fe ddinistriwn eu dinasoedd yn llwyr.”

3. Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma.

Y Sarff Bres

4. Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith,

5. a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, “Pam y daethoch â ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn.”

6. Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt.

7. Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, “Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gweddïa ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym.” Felly gweddïodd Moses ar ran y bobl,

8. a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw.”

9. Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.

Symud o Fynydd Hor i Ddyffryn ger Pisga

10. Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth,

11. a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn â Moab, tua chodiad haul.

12. Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared,

13. aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid.

14. Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn sôn am“Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,

15. Arnon a llechweddau'r dyffrynnoeddsy'n ymestyn at safle Arac yn gorffwys ar derfyn Moab.”

16. Oddi yno aethant i Beer, y ffynnon y soniodd yr ARGLWYDD amdani wrth Moses, pan ddywedodd, “Cynnull y bobl ynghyd, er mwyn i mi roi dŵr iddynt.”

17. Yna canodd Israel y gân hon:“Tardda, ffynnon! Canwch iddi—

18. y ffynnon a gloddiodd y tywysogion,ac a agorodd penaethiaid y boblâ'u gwiail a'u ffyn.”Aethant ymlaen o'r anialwch i Mattana,

19. ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth,

20. ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.

Goruchafiaeth ar Sihon ac Og

21. Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud,

22. “Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed dŵr o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.”

23. Ond nid oedd Sihon am adael i Israel fynd trwy ei diriogaeth; felly cynullodd ei holl fyddin, ac aeth allan i'r anialwch yn erbyn Israel, a phan ddaeth i Jahas, ymosododd arnynt.

24. Ond lladdodd yr Israeliaid ef â min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw.

25. Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi.

26. Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon.

27. Dyna pam y canodd y beirdd:“Dewch i Hesbon a'i hadeiladu!Gwnewch yn gadarn ddinas Sihon!

28. Oherwydd aeth tân allan o Hesbon,a fflam o ddinas Sihon,a difa Ar yn Moaba pherchnogion mynydd-dir Arnon.

29. Gwae di, Moab!Darfu amdanoch, chwi bobl Cemos!Gwnaeth ei feibion yn ffoaduriaid,a'i ferched yn gaethioni Sihon brenin yr Amoriaid.

30. Saethasom hwy, a darfu amdanynto Hesbon hyd Dibon,ac yr ydym wedi eu dymchwelo Noffa hyd Medeba.”

31. Felly y daeth Israel i fyw yng ngwlad yr Amoriaid.

32. Anfonodd Moses rai i ysbïo Jaser cyn meddiannu eu pentrefi, a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno.

33. Yna troesant a mynd ar hyd ffordd Basan; ond daeth Og brenin Basan a'i holl fyddin allan yn eu herbyn, ac ymladd â hwy yn Edrei.

34. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Paid â'i ofni, oherwydd yr wyf wedi ei roi ef a'i holl fyddin a'i dir yn dy law; gwna iddo ef yr hyn a wnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Hesbon.”

35. Felly lladdasant ef, ei feibion a'i holl fyddin, heb adael un yn weddill; yna meddianasant ei dir.