Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yr Ail Gyfrifiad

1. Ar ôl y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad,

2. “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel.”

3. Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen,

4. am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft:

5. Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid;

6. o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid.

7. Dyma gyfanswm teuluoedd y Reubeniaid: pedwar deg tair o filoedd, saith gant a thri deg.

8. Mab Palu: Eliab.

9. Meibion Eliab: Nemuel, Dathan ac Abiram. Dyma'r Dathan a'r Abiram a anogodd y cynulliad i ymuno â chwmni Cora i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac yn erbyn yr ARGLWYDD;

10. agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a Cora, a bu farw'r cwmni pan losgwyd dau gant a hanner ohonynt mewn tân, fel rhybudd.

11. Er hyn, ni fu farw meibion Cora.

12. Meibion Simeon yn ôl eu teuluoedd: o Nemuel, teulu'r Nemueliaid; o Jamin, teulu'r Jaminiaid; o Jachin, teulu'r Jachiniaid;

13. o Sera, teulu'r Serahiaid; o Saul, teulu'r Sauliaid.

14. Dyma deuluoedd y Simeoniaid, dau ddeg dwy o filoedd a dau gant.

15. Meibion Gad yn ôl eu teuluoedd: o Seffon, teulu'r Seffoniaid; o Haggi, teulu'r Haggiaid; o Suni, teulu'r Suniaid;

16. o Osni, teulu'r Osniaid; o Eri, teulu'r Eriaid;

17. o Arod, teulu'r Arodiaid; o Areli, teulu'r Areliaid.

18. Dyma deuluoedd meibion Gad, cyfanswm o ddeugain mil a phum cant.

19. Meibion Jwda: Er ac Onan; bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan.

20. Meibion Jwda yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid.

21. Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid.

22. Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.

23. Meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid;

24. o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid.

25. Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.

26. Meibion Sabulon yn ôl eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid.

27. Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.

28. Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn ôl eu teuluoedd:

29. Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid.

30. Dyma feibion Gilead: o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Helec, teulu'r Heleciaid;

31. o Asriel, teulu'r Asrieliaid; o Sechem, teulu'r Sechemiaid;

32. o Semida, teulu'r Semidiaid; o Heffer, teulu'r Hefferiaid.

33. Nid oedd gan Seloffehad fab Heffer feibion, dim ond merched; enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.

34. Dyma deuluoedd Manasse, cyfanswm o bum deg dwy o filoedd a saith gant.

35. Dyma feibion Effraim yn ôl eu teuluoedd: o Suthela, teulu'r Sutheliaid; o Becher, teulu'r Becheriaid; o Tahan, teulu'r Tahaniaid.

36. Dyma feibion Suthela: o Eran, teulu'r Eraniaid.

37. Dyma deuluoedd meibion Effraim, cyfanswm o dri deg dwy o filoedd a phum cant. Dyma feibion Joseff yn ôl eu teuluoedd.

38. Meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd: o Bela, teulu'r Belaiaid; o Asbel, teulu'r Asbeliaid; o Ahiram, teulu'r Ahiramiaid;

39. o Suffam, teulu'r Suffamiaid; o Huffam, teulu'r Huffamiaid.

40. Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu'r Ardiaid; o Naaman, teulu'r Naamaniaid.

41. Dyma feibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a chwe chant.

42. Dyma feibion Dan yn ôl eu teuluoedd: o Suham, teulu'r Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan yn ôl eu teuluoedd.

43. Cyfanswm holl deuluoedd y Suhamiaid oedd chwe deg pedair o filoedd a phedwar cant.

44. Meibion Aser yn ôl eu teuluoedd: o Jimna, teulu'r Jimniaid; o Jesui, teulu'r Jesuiaid; o Bereia, teulu'r Bereiaid.

45. O feibion Bereia: o Heber, teulu'r Heberiaid; o Malciel, teulu'r Malcieliaid.

46. Enw merch Aser oedd Sara.

47. Dyma deuluoedd meibion Aser, cyfanswm o bum deg tair o filoedd a phedwar cant.

48. Meibion Nafftali yn ôl eu teuluoedd: o Jahseel, teulu'r Jahseeliaid; o Guni, teulu'r Guniaid;

49. o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Silem, teulu'r Silemiaid.

50. Dyma dylwyth Nafftali yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a phedwar cant.

51. Dyma gyfanswm yr Israeliaid: chwe chant ac un o filoedd saith gant a thri deg.

52. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

53. “I'r rhain, yn ôl nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth.

54. I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn ôl y nifer sydd ynddo.

55. Yr wyt i rannu'r tir trwy goelbren, ac y maent i etifeddu yn ôl enwau llwythau eu hynafiaid.

56. Rhennir yr etifeddiaeth trwy'r coelbren rhwng y rhai mawr a'r rhai bychain.”

57. Dyma'r Lefiaid a restrwyd yn ôl eu teuluoedd: o Gerson, teulu'r Gersoniaid; o Cohath, teulu'r Cohathiaid; o Merari, teulu'r Merariaid.

58. Dyma deuluoedd Lefi: y Libniaid, yr Hebroniaid, y Mahliaid, y Musiaid a'r Corahiaid. Yr oedd Cohath yn dad i Amram.

59. Enw gwraig Amram oedd Jochebed ferch Lefi, a anwyd iddo yn yr Aifft; ac i Amram fe anwyd ohoni hi Aaron, Moses a'u chwaer Miriam.

60. I Aaron fe anwyd Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar;

61. ond bu farw Nadab ac Abihu wrth iddynt offrymu tân halogedig gerbron yr ARGLWYDD.

62. Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.

63. Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.

64. Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai,

65. oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.