Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 17 beibl.net 2015 (BNET)

Y wraig ar gefn yr anghenfil

1. Dyma un o'r saith angel gyda'r powlenni yn dod ata i, a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos i ti y gosb mae'r butain fawr sy'n eistedd ar ddyfroedd lawer yn ei ddioddef.

2. Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda hi, a phobl y byd i gyd wedi meddwi ar win ei hanfoesoldeb.”

3. Dyma'r angel yn fy nghodi fi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i anialwch. Yno gwelais wraig yn eistedd ar gefn anghenfil ysgarlad. Roedd gan yr anghenfil saith pen a deg corn, ac roedd wedi ei orchuddio gydag enwau cableddus.

4. Roedd y wraig yn gwisgo gwisg o borffor ac ysgarlad, ac wedi addurno ei hun gyda thlysau o aur a gemau gwerthfawr a pherlau. Roedd ganddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o bethau ffiaidd a budreddi ei hanfoesoldeb.

5. Ar ei thalcen roedd teitl cryptig wedi ei ysgrifennu:BABILON FAWR,MAM PUTEINIAID A PHETHAU FFIAIDD Y DDAEAR

6. Gwelais fod y wraig wedi meddwi ar waed pobl Dduw, sef gwaed y bobl hynny oedd wedi bod yn dystion i Iesu. Pan welais hi roeddwn i'n gwbl ddryslyd.

7. A dyma'r angel yn gofyn i mi, “Pam rwyt ti'n teimlo'n ddryslyd? Gad i mi esbonio i ti ystyr cudd y wraig a'r anghenfil mae hi'n eistedd ar ei gefn, yr un gyda'r saith pen a'r deg corn.

8. Roedd yr anghenfil welaist ti yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach. Ond mae ar fin dod allan o'r pydew diwaelod i gael ei ddinistrio. Bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear (y rhai dydy eu henwau nhw ddim wedi eu cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu), yn syfrdan pan fyddan nhw'n gweld yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim mwyach, ac sy'n mynd i ddod yn ôl eto.

9. Mae angen meddwl craff a dirnadaeth i ddeall hyn. Saith bryn ydy'r saith pen mae'r wraig yn eistedd arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn cynrychioli saith brenin.

10. Mae pump ohonyn nhw eisoes wedi syrthio, mae un yn frenin ar hyn o bryd, ac mae'r llall heb ddod eto. Pan fydd hwnnw'n dod, fydd e ond yn aros am amser byr.

11. Yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach, ydy'r wythfed brenin (y mae yntau yr un fath â'r saith, ac yn mynd i gael ei ddinistrio).

12. “Mae'r deg corn welaist ti yn cynrychioli deg brenin sydd heb deyrnasu eto, ond byddan nhw'n cael awdurdod i deyrnasu gyda'r anghenfil am amser byr.

13. Maen nhw i gyd yn rhannu'r un bwriad, a byddan nhw'n rhoi eu hawdurdod i'r anghenfil.

14. Byddan nhw'n rhyfela yn erbyn yr Oen, ond bydd yr Oen yn ennill y frwydr am ei fod yn Arglwydd ar arglwyddi ac yn Frenin ar frenhinoedd. A bydd ei ddilynwyr ffyddlon – y rhai sydd wedi eu galw a'u dewis ganddo – yn rhannu'r fuddugoliaeth gydag e.”

15. Wedyn dyma'r angel yn mynd ymlaen i ddweud hyn wrtho i: “Mae'r dyfroedd welaist ti, lle mae'r butain yn eistedd, yn cynrychioli'r gwahanol bobloedd, tyrfaoedd, cenhedloedd ac ieithoedd.

16. Bydd y deg corn welaist ti, a'r anghenfil hefyd, yn dod i gasáu y butain. Byddan nhw yn ei dinistrio hi'n llwyr ac yn ei gadael yn gwbl noeth; byddan nhw'n llarpio ei chnawd ac yn ei llosgi â thân.

17. Mae Duw wedi plannu'r syniad yn eu meddyliau nhw er mwyn cyflawni ei bwrpas, a hefyd wedi eu cael nhw i rannu'r un bwriad ac i roi eu hawdurdod brenhinol i'r anghenfil, nes bydd beth ddwedodd Duw yn dod yn wir.

18. Y wraig welaist ti ydy'r ddinas fawr sy'n llywodraethu dros frenhinoedd y ddaear.”