Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 3 beibl.net 2015 (BNET)

At eglwys Sardis

1. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Sardis:‘Dyma beth mae'r un y mae Ysbryd cyflawn perffaith Duw ganddo ac sy'n dal y saith seren yn ei ddweud: Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Mae gen ti enw dy fod yn eglwys fyw, ond corff marw wyt ti go iawn.

2. Deffra! Cryfha beth sy'n dal ar ôl cyn i hwnnw farw hefyd. Dydy beth rwyt ti'n ei wneud ddim yn dderbyniol gan Dduw.

3. Felly cofia beth wnest ti ei glywed a'i gredu gyntaf; gwna hynny, a throi yn ôl ata i. Os na fyddi di'n effro, bydda i'n dod fel lleidr. Fydd gen ti ddim syniad pryd fydda i'n dod.

4. Ac eto mae rhai pobl yn Sardis sydd heb faeddu eu dillad. Byddan nhw'n cerdded gyda mi wedi eu gwisgo mewn dillad gwyn. Dyna maen nhw'n ei haeddu.

5. Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael gwisgo dillad gwyn. Fydda i byth yn dileu eu henwau nhw o Lyfr y Bywyd. Bydda i'n dweud yn agored o flaen fy Nhad a'i angylion eu bod nhw'n perthyn i mi.

6. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’

At eglwys Philadelffia

7. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Philadelffia: ‘Dyma mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud. Mae allwedd teyrnas Dafydd ganddo, a does neb yn gallu cloi beth mae wedi ei agor, nac agor beth mae wedi ei gloi:

8. Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Edrych, dw i wedi agor drws i ti – drws fydd neb yn gallu ei gau. Dw i'n gwybod mai ychydig nerth sydd gen ti, ond rwyt ti wedi gwneud beth dw i'n ei ddweud a heb wadu dy fod ti'n credu ynof fi.

9. Bydda i'n gwneud i'r rhai sy'n perthyn i synagog Satan ddod â syrthio wrth dy draed di a chydnabod mai chi ydy'r bobl dw i wedi eu caru. Maen nhw'n honni bod yn bobl Dduw, ond dydyn nhw ddim go iawn; maen nhw'n dweud celwydd.

10. Am dy fod di wedi bod yn ufudd i'r gorchymyn i ddal ati, bydda i'n dy amddiffyn di rhag yr amser caled fydd y byd i gyd yn mynd trwyddo, pan fydd y rhai sy'n perthyn i'r ddaear ar brawf.

11. Edrych! Dw i'n dod yn fuan. Dal dy afael yn beth sydd gen ti, fel bod neb yn dwyn dy goron di.

12. Bydda i'n gwneud pawb sy'n ennill y frwydr yn biler yn nheml fy Nuw. Fyddan nhw byth yn ei gadael. Bydda i'n ysgrifennu enw fy Nuw arnyn nhw, ac enw dinas fy Nuw, sef y Jerwsalem newydd sy'n dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd; bydda i hefyd yn ysgrifennu fy enw newydd i arnyn nhw.

13. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’

At eglwys Laodicea

14. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Laodicea:‘Dyma beth mae'r Amen yn ei ddweud, y tyst ffyddlon, ffynhonnell cread Duw.

15. Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Dwyt ti ddim yn oer nac yn boeth! Byddwn i'n hoffi i ti fod y naill neu'r llall!

16. Ond gan dy fod yn llugoer, bydda i'n dy chwydu di allan.

17. Rwyt ti'n dweud, “Dw i'n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth does gen i angen dim byd.” Dwyt ti ddim yn gweld mor druenus rwyt ti go iawn. Druan ohonot ti! Rwyt ti'n dlawd yn ddall ac yn noeth!

18. Dw i'n dy gynghori di i brynu aur gen i, aur wedi ei goethi trwy dân. Byddi di'n gyfoethog wedyn! A phryna ddillad gwyn i'w gwisgo, wedyn fydd dim rhaid i ti gywilyddio am dy fod yn noeth. A gelli brynu eli i'r llygaid hefyd, er mwyn i ti allu gweld eto!

19. Dw i'n ceryddu a disgyblu pawb dw i'n eu caru. Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod.

20. Edrych! Dw i yma! Dw i'n sefyll wrth y drws ac yn curo. Os bydd rhywun yn fy nghlywed i'n galw ac yn dod i agor y drws, dof i mewn i rannu pryd o fwyd gyda nhw.

21. Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael hawl i deyrnasu gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel wnes i ennill y frwydr, a theyrnasu gyda fy Nhad ar ei orsedd e.

22. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’”