Dyma'r angel yn fy nghodi fi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i anialwch. Yno gwelais wraig yn eistedd ar gefn anghenfil ysgarlad. Roedd gan yr anghenfil saith pen a deg corn, ac roedd wedi ei orchuddio gydag enwau cableddus.