Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 12 beibl.net 2015 (BNET)

Y Wraig a'r Ddraig

1. Dyma arwydd rhyfeddol yn ymddangos yn y nefoedd: gwraig wedi ei gwisgo â'r haul. Roedd y lleuad dan ei thraed ac roedd coron o saith seren ar ei phen.

2. Roedd y wraig yn feichiog ac yn gweiddi mewn poen am fod y plentyn wedi dechrau cael ei eni.

3. A dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a deg corn, a saith coron ar ei phennau.

4. Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o'r sêr o'r awyr ac yn eu taflu i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni.

5. Cafodd y wraig fab – bachgen fydd yn teyrnasu dros yr holl genhedloedd gyda theyrnwialen haearn. Dyma'r plentyn yn cael ei gipio i fyny at Dduw ac at ei orsedd.

6. Dyma'r wraig yn dianc i'r anialwch i le oedd Duw wedi ei baratoi iddi, lle byddai hi'n ddiogel am fil dau gant chwe deg diwrnod.

7. Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a'i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a'i hangylion yn ymladd yn ôl,

8. ond doedd hi ddim digon cryf, a dyma nhw'n colli eu lle yn y nefoedd.

9. Dyma'r ddraig fawr yn cael ei hyrddio i lawr (sef yr hen sarff sy'n cael ei galw ‛y diafol‛ a ‛Satan‛ ac sy'n twyllo'r byd i gyd). Cafodd ei hyrddio i lawr i'r ddaear, a'i hangylion gyda hi.

10. Yna clywais lais uchel yn y nefoedd yn dweud:“Mae Duw wedi achub, cymryd y grym, a dod i deyrnasu,ac mae'r awdurdod gan ei Feseia.Oherwydd mae cyhuddwr y brodyr a'r chwiorydd(yr un oedd yn eu cyhuddo nhw o flaen Duw ddydd a nos),wedi cael ei hyrddio i lawr.

11. Maen nhw wedi ennill y frwydram fod yr Oen wedi marw'n aberth,ac am iddyn nhw dystio i'r neges.Dim ceisio amddiffyn eu hunain wnaeth y rhain –doedd ganddyn nhw ddim ofn marw.

12. Felly bydd lawen nefoedd!Llawenhewch bawb sy'n byw yno!Ond gwae chi'r ddaear a'r môr,oherwydd mae'r diafol wedi dod i lawr atat,ac wedi gwylltio'n gandryll,am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.”

13. Pan sylweddolodd y ddraig ei bod wedi cael ei hyrddio i'r ddaear dyma hi'n erlid ar ôl y wraig oedd wedi rhoi genedigaeth i'r bachgen.

14. Ond cafodd adenydd eryr mawr eu rhoi i'r wraig, iddi allu hedfan i'r lle oedd wedi ei baratoi iddi yn yr anialwch. Yno byddai hi'n saff allan o gyrraedd y ddraig am dair blynedd a hanner.

15. Yna dyma'r sarff yn chwydu dŵr fel afon i geisio dal y wraig a'u hysgubo i ffwrdd gyda'r llif.

16. Ond dyma'r ddaear yn helpu'r wraig drwy agor a llyncu yr afon oedd y ddraig wedi ei chwydu o'i cheg.

17. Roedd y ddraig yn wyllt gynddeiriog gyda'r wraig, ac aeth allan i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant – yn erbyn y rhai sy'n ufudd i orchmynion Duw ac yn dal ati i dystio i Iesu.

Yr anghenfil o'r môr

18. Safodd y ddraig ar lan y môr,