Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 8 beibl.net 2015 (BNET)

Y seithfed sêl a'r llestr aur

1. Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, aeth pobman yn y nefoedd yn hollol dawel am tua hanner awr.

2. Wedyn gwelais utgyrn yn cael eu rhoi i'r saith angel sy'n sefyll o flaen Duw.

3. Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i'w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i'w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl.

4. Roedd mwg yr arogldarth a gweddïau pobl Dduw yn codi o law yr angel at Dduw.

5. Yna dyma'r angel yn llenwi'r llestr gyda marwor o'r allor ac yna'n ei daflu i lawr i'r ddaear; ac roedd sŵn taranau a mellt a daeargryn.

Yr Utgyrn

6. Dyma'r saith angel oedd â'r saith utgorn yn paratoi i'w canu.

7. Dyma'r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi ei gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear. Cafodd un rhan o dair o'r ddaear ei llosgi, a'r coed a'r holl blanhigion yn y rhan yna o'r byd.

8. Dyma'r ail angel yn canu ei utgorn, a dyma rywbeth oedd yn edrych yn debyg i losgfynydd enfawr yn ffrwydro ac yn cael ei daflu i'r môr. Trodd un rhan o dair o'r môr yn waed,

9. lladdwyd un rhan o dair o'r creaduriaid byw yn y môr, a dinistriwyd un rhan o dair o'r llongau.

10. Dyma'r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o'r awyr. Roedd yn llosgi'n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o'r afonydd a'r ffynhonnau dŵr.

11. ‛Wermod‛ oedd enw'r seren, a trodd un rhan o dair o'r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi'n chwerw.

12. Dyma'r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o'r haul a'r lleuad a'r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw'n troi'n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o'r dydd, na'r nos chwaith.

13. Wedyn gwelais eryr yn hedfan yn uchel yn yr awyr, a'i glywed yn gweiddi'n uchel: “Gwae! Gwae! Gwae pawb sy'n perthyn i'r ddaear, o achos beth sy'n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu hutgyrn!”