Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 22 beibl.net 2015 (BNET)

Afon y Bywyd

1. Wedyn dangosodd yr angel afon o ddŵr bywiol i mi. Roedd y dŵr yn lân fel grisial ac yn llifo o orsedd Duw a'r Oen

2. i lawr heol fawr y ddinas. Roedd coed y bywyd bob ochr i'r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau – cnwd newydd bob mis. Mae dail y coed yn iacháu y cenhedloedd.

3. Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach. Bydd gorsedd Duw a'r Oen yn y ddinas, a bydd y rhai sy'n ei wasanaethu yn cael gwneud hynny.

4. Cân nhw weld ei wyneb, a bydd ei enw wedi ei ysgrifennu ar eu talcennau.

5. Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau'r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw. Byddan nhw'n teyrnasu am byth bythoedd.

6. Dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir. Mae'r Arglwydd, y Duw sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'r rhai sy'n ei wasanaethu beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.”

Mae Iesu'n dod yn ôl!

7. “Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae proffwydoliaeth y llyfr hwn yn ei ddweud wedi eu bendithio'n fawr.”

8. Fi, Ioan, glywodd ac a welodd y pethau yma i gyd. Ar ôl i mi eu clywed a'u gweld syrthiais i lawr wrth draed yr angel oedd wedi bod yn dangos y cwbl i mi a'i addoli.

9. Ond dyma'r angel yn dweud, “Paid! Duw ydy'r unig Un rwyt i'w addoli! Un yn gwasanaethu Duw ydw i, yr un fath â ti a'r proffwydi eraill a phawb arall sy'n gwneud beth mae'r llyfr hwn yn ei ddweud.”

10. Yna dwedodd wrtho i, “Paid cau'r llyfr yma, a rhoi sêl arno i rwystro pobl rhag darllen y neges broffwydol sydd ynddo, achos mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos!

11. Gadewch i'r rhai sy'n gwneud drwg ddal ati i wneud drwg; gadewch i'r rhai anfoesol ddal ati i fod yn anfoesol; gadewch i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddal ati i wneud beth sy'n iawn; a gadewch i'r rhai sy'n sanctaidd ddal ati i fod yn sanctaidd.”

12. “Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i'w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi ei wneud.

13. Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Cyntaf a'r Olaf, y Dechrau a'r Diwedd.

14. “Mae'r rhai sy'n glanhau eu mentyll wedi eu bendithio'n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy'r giatiau i mewn i'r ddinas.

15. Y tu allan mae'r cŵn, a'r rhai sy'n ymarfer dewiniaeth, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, llofruddion, y rhai sy'n addoli eilun-dduwiau a phawb sy'n caru twyllo.

16. “Dw i, Iesu, wedi anfon fy angel i rannu'r dystiolaeth hon gyda chi er lles yr eglwysi. Fi ydy disgynnydd y Brenin Dafydd, a'r Seren sy'n disgleirio yn y bore.”

17. Mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy'n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i'r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.

18. Dw i'n rhybuddio pawb sy'n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â'r plâu sy'n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw.

19. Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a'u lle yn y ddinas sanctaidd sy'n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn.

20. Mae'r un sy'n rhoi'r dystiolaeth am y pethau hyn yn dweud, “Ydw, dw i'n dod yn fuan.”Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu!

21. Dw i'n gweddïo y bydd pobl Dduw i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu! Amen.