Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 2 beibl.net 2015 (BNET)

At eglwys Effesus

1. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Effesus:‘Dyma beth mae'r un sy'n dal y saith seren yn ei law dde ac yn cerdded rhwng y saith canhwyllbren aur yn ei ddweud:

2. Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Rwyt ti'n gweithio'n galed ac wedi dal ati. Dw i'n gwybod dy fod ti ddim yn gallu diodde'r bobl ddrwg hynny sy'n honni eu bod nhw yn gynrychiolwyr personol i'r Meseia Iesu, ond sydd ddim go iawn. Rwyt ti wedi profi eu bod nhw'n dweud celwydd.

3. Rwyt ti wedi dal ati ac wedi dioddef caledi er fy mwyn i, a heb flino.

4. Ond mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Dwyt ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn.

5. Edrych mor bell rwyt ti wedi syrthio! Tro yn ôl ata i eto, a gwna beth roeddet ti'n ei wneud ar y cychwyn. Os ddoi di ddim yn ôl ata i, dof fi atat ti a chymryd dy ganhwyllbren di i ffwrdd.

6. Ond mae hyn o dy blaid di: Rwyt ti, fel finnau, yn casáu beth mae'r Nicolaiaid yn ei wneud.

7. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta o goeden y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.’

At eglwys Smyrna

8. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Smyrna:‘Dyma beth mae'r Cyntaf a'r Olaf yn ei ddweud, yr un fuodd farw a dod yn ôl yn fyw:

9. Dw i'n gwybod dy fod ti'n dioddef, a dy fod yn dlawd (er, rwyt ti'n gyfoethog go iawn!) Dw i'n gwybod hefyd dy fod ti'n cael dy sarhau gan y rhai sy'n honni bod yn bobl Dduw ond sydd ddim go iawn. Synagog Satan ydyn nhw!

10. Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi trwy eich taflu i'r carchar. Bydd pethau'n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i.

11. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Fydd y rhai sy'n ennill y frwydr ddim yn cael unrhyw niwed gan beth sy'n cael ei alw yn "ail farwolaeth".’

At eglwys Pergamus

12. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Pergamus:‘Dyma beth mae'r un sydd â'r cleddyf miniog ganddo yn ei ddweud:

13. Dw i'n gwybod dy fod ti'n byw yn y ddinas lle mae gorsedd Satan. Ond rwyt ti wedi aros yn ffyddlon i mi. Wnest ti ddim gwadu dy fod yn credu ynof fi, hyd yn oed pan gafodd Antipas ei ladd lle mae Satan yn byw. Roedd e'n ffyddlon, ac yn dweud wrth bawb amdana i.

14. Er hynny, mae gen i bethau yn dy erbyn: Mae rhai pobl acw yn gwneud beth oedd Balaam yn ei ddysgu. Balaam ddysgodd Balac i ddenu pobl Israel i bechu. Gwnaeth iddyn nhw fwyta bwyd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau a phechu'n rhywiol.

15. A'r un fath, mae yna rai ohonoch chi hefyd sy'n dilyn beth mae'r Nicolaiaid yn ei ddysgu.

16. Tro dy gefn ar y pechodau hyn! Os gwnei di ddim, bydda i'n dod yn sydyn ac yn ymladd yn eu herbyn nhw gyda'r cleddyf sydd yn fy ngheg.

17. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta'r manna sydd wedi ei gadw o'r golwg. Bydda i hefyd yn rhoi carreg wen i bob un ohonyn nhw. Bydd enw newydd wedi ei ysgrifennu ar y garreg, a neb yn gwybod yr enw ond y sawl sy'n derbyn y garreg.’

At eglwys Thyatira

18. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Thyatira:‘Dyma beth mae Mab Duw yn ei ddweud, sef yr Un sydd â sbarc fel fflamau o dân yn ei lygaid, a'i draed yn gloywi fel efydd:

19. Dw i'n gwybod am bopeth wyt ti'n ei wneud – am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a'th allu i ddal ati; a dw i'n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn.

20. Er hynny, mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Rwyt ti'n goddef y wraig yna, y ‛Jesebel‛ sy'n galw ei hun yn broffwydes. Mae hi'n dysgu pethau sy'n camarwain y rhai sy'n fy ngwasanaethu i. Mae hi'n eu hannog nhw i bechu'n rhywiol a bwyta bwyd sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau.

21. Dw i wedi rhoi cyfle iddi hi droi cefn ar y drwg, ond mae hi'n gwrthod.

22. Felly dw i'n mynd i wneud iddi ddioddef o afiechyd poenus, a bydd y rhai sy'n godinebu gyda hi yn dioddef hefyd os fyddan nhw ddim yn stopio gwneud beth mae hi'n ei ddweud.

23. Bydda i'n lladd ei dilynwyr hi, ac wedyn bydd yr eglwysi yn gwybod mai fi ydy'r Un sy'n gweld beth sydd yng nghalonnau a meddyliau pobl. Bydd pob un ohonoch chi yn cael beth mae'n ei haeddu.

24. Am y gweddill ohonoch chi yn Thyatira, sef y rhai sydd heb dderbyn beth mae hi'n ei ddysgu (sef ‛cyfrinachau dirgel Satan‛), wna i ddim rhoi dim mwy o bwysau arnoch chi.

25. Ond daliwch afael yn beth sydd gynnoch chi nes i mi ddod yn ôl.

26. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr, ac yn dilyn fy esiampl i i'r diwedd un, yn cael awdurdod dros y cenhedloedd –

27. “Bydd yn teyrnasu arnyn nhw gyda theyrnwialen haearn; ac yn eu malu'n ddarnau fel malu llestri pridd.” Bydd ganddyn nhw yr un awdurdod ag a ges i gan fy Nhad.

28. A bydda i'n rhoi Seren y Bore iddyn nhw hefyd.

29. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’