Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 8 beibl.net 2015 (BNET)

Barn Duw ar Israel

1. Canwch y corn hwrdd! Rhybuddiwch y bobl!Mae eryr yn hofran uwch teml yr ARGLWYDD.Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad gyda mi,ac wedi gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.

2. Mae Israel yn galw arna i,“O Dduw, dŷn ni'n dy gydnabod di!”

3. Ond mae'n rhy hwyr! Mae Israel wedi gwrthod y da,a bydd y gelyn yn ei erlyn.

4. Maen nhw wedi dewis brenhinoeddheb ofyn i mi.Maen nhw wedi urddo arweinwyrheb i mi gytuno.Maen nhw wedi gwneud eilunodgyda'r arian a'r aur oedd ganddyn nhw –ffordd dda i ddinistrio'i hunain!

5. Dw i wedi gwrthod tarw Samaria.Dw i wedi digio'n lân gyda nhw!Fydd hi ddim yn hir nes i mi eu cosbi nhw,

6. er mai pobl Israel ydyn nhw!Cafodd y peth hwnnw ei greu gan grefftwr –nid Duw ydy e!Felly, bydd tarw Samariayn cael ei falu'n ddarnau mân!

7. Maen nhw wedi hau gwynt,ond byddan nhw'n medi corwynt!‛Dydy ŷd heb ben ddim yn rhoi blawd.‛Hyd yn oed petai'n rhoi cnwd,pobl estron fydd yn ei fwyta.

8. Bydd Israel wedi ei llyncu gan y cenhedloedd;bydd fel darn o sbwriel wedi ei daflu i ffwrdd.

9. Maen nhw wedi mynd i fyny i Asyria –fel asyn gwyllt yn crwydro'n unig.Mae Effraim wedi bod yn talu am ei chariadon.

10. Am ei bod nhw wedi talu am gariad y cenhedloedd,dw i'n mynd i'w casglu nhw i gael eu barnu,a byddan nhw'n gwywo dan orthrwm y brenin mawr.

11. Er fod Effraim wedi adeiladu allorau i aberthu dros bechod,maen nhw wedi eu troi yn allorau i bechu!

12. Er fy mod wedi rhoi cyfreithiau manwl iddyn nhw,maen nhw'n trin y cwbl fel rhywbeth hollol ddieithr!

13. Mae'n nhw'n dod i offrymu aberthauer mwyn cael bwyta'r cig!Dydy'r ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw!Yn fuan iawn, bydd yn delio gyda'i pechodau nhw,ac yn eu cosbi nhw;byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!

14. Mae Israel wedi anghofio'i Chrëwr.Mae Jwda wedi adeiladu palasau,a chryfhau ei chaerau amddiffynnol.Ond bydda i'n anfon tân i'w threfi,ac yn llosgi ei phalasau.