Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 4 beibl.net 2015 (BNET)

Israel anffyddlon

1. Bobl Israel, gwrandwch ar y neges sydd gan yr ARGLWYDD i chi! Mae'r ARGLWYDD yn dwyn achos yn erbyn pobl y wlad: “Does yna neb sy'n ffyddlon, neb sy'n garedig, neb sy'n nabod Duw go iawn.

2. Ond mae yna ddigon o regi, twyllo, llofruddio, dwyn a godinebu! Mae yna drais ym mhobman!

3. A dyna pam fydd y wlad yn methu a'i phobl yn mynd yn wan. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt a'r adar a'r pysgod yn diflannu!

Yr ARGLWYDD yn cyhuddo'r offeiriaid

4. Peidiwch pwyntio'r bys at bobl eraill, a rhoi'r bai arnyn nhw.Mae fy achos yn eich erbyn chi offeiriaid!

5. Byddwch yn baglu yng ngolau dydd,a bydd eich proffwydi ffals yn baglu gyda chi yn y nos.Bydd dychryn yn eich dinistrio!

6. Mae fy mhobl yn cael eu dinistrio am nad ydyn nhw'n fy nabod i.Dych chi offeiriaid ddim eisiau fy nabod i,felly dw i ddim eisiau chi yn offeiriaid.Dych chi wedi gwrthod dysgeidiaeth eich Duwfelly dw i'n mynd i wrthod eich plant chi.

7. Wrth i'r offeiriaid ennill mwy a mwy o gyfoethmaen nhw'n pechu mwy yn fy erbyn i –cyfnewid yr Un Gwych am beth gwarthus!

8. Maen nhw'n bwyta offrymau dros bechod fy mhobl!Maen nhw eisiau i'r bobl bechu!

9. Ac mae'r bobl yn gwneud yr un fath â'r offeiriaid –felly bydda i'n eu cosbi nhw i gyd am y drwg;talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.

10. Byddan nhw'n bwyta, ond byth yn cael digon.Byddan nhw'n cael rhyw, ond ddim yn cael plant.Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDDa bwrw ati i buteinio.

Yr ARGLWYDD yn condemnio addoli eilunod

11. Mae gwin wedi drysu fy mhobl!

12. Maen nhw'n troi at ddarn o bren am help,a disgwyl ateb gan ffon hud rhyw swynwr!Mae'r obsesiwn am ryw wedi gwneud iddyn nhw golli'r ffordd,ac maen nhw'n puteinio eu hunain i ffwrdd oddi wrth eu Duw.

13. Maen nhw'n aberthu ar gopa'r mynyddoedd,a llosgi arogldarth ar ben y bryniau –dan gysgod hyfryd rhyw dderwen,coeden boplys neu derebinth.A'r canlyniad? Mae eich merched yn buteiniaid,a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu!

14. Ond pam ddylwn i gosbi dy ferched am buteinio,a'th ferched-yng-nghyfraith am odinebu?Mae'r dynion yr un fath! – yn ‛addoli‛ gyda hwren,ac yn aberthu gyda putain teml!‘Bydd pobl ddwl yn mynd i ddistryw!’

15. Er dy fod ti, O Israel, yn godinebu,boed i Jwda osgoi pechu.Paid mynd i gysegr Gilgal!Paid mynd i fyny i Beth-afen!Paid tyngu llw, ‘Fel mae'r ARGLWYDD yn fyw …’

16. Mae Israel anufudd yn ystyfnig fel mul!Cyn bo hir bydd yr ARGLWYDD yn ei gyrru allan i bori,a bydd fel oen bach ar dir agored!

17. Mae pobl Effraim yn briod ag eilunod –gad iddyn nhw fod!

18. Ar ôl yfed yn drwm nes bod dim diod ar ôl,maen nhw'n troi at buteiniaid temlac yn joio eu mochyndra digywilydd!

19. Ond bydd corwynt yn eu cipio,a bydd eu haberthau'n achos cywilydd go iawn.