Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 14 beibl.net 2015 (BNET)

Troi yn ôl ar yr ARGLWYDD

1. O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio.

2. Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau'n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti.

3. Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!”

Yr ARGLWYDD yn addo maddau

4. “Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio,a'u caru nhw'n ddiamod.Dw i'n mynd i droi cefn ar fy nig.

5. Bydda i fel gwlith i Israel –bydd hi'n blodeuo fel saffrwn,a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus.

6. Bydd ei blagur yn tyfu;bydd yn hardd fel coeden olewydd,a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.

7. Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod.Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu;bydd yn enwog fel gwin Libanus.

8. Fydd gan Effraim ddim i'w wneud ag eilunod byth eto!Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano.Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd,bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.”

Her i'r sawl sy'n darllen y broffwydoliaeth

9. Pwy sy'n ddoeth? Bydd e'n deall.Pwy sy'n gall? Bydd e'n gwybod.Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn –bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn,ond y rhai sy'n gwrthryfela yn baglu.