Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 3 beibl.net 2015 (BNET)

Cariad Duw yn cynnig gobaith

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i:“Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a'i bod yn anffyddlon i ti. Dyna'n union fel mae'r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw'n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.”

2. Felly dyma fi'n mynd a talu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani.

3. A dyma fi'n dweud wrthi, “O hyn allan ti'n mynd i aros gyda mi. Dwyt ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.”

4. Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nag arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol.

5. Ond wedyn yn y dyfodol bydd pobl Israel yn troi yn ôl at yr ARGLWYDD eu Duw a'u brenin o deulu Dafydd. Bryd hynny byddan nhw'n plygu i'r ARGLWYDD a'i barchu, ac yn profi eto mor dda ydy e.