Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 5 beibl.net 2015 (BNET)

Bydd Israel a Jwda'n cael eu barnu

1. Gwrandwch, chi offeiriaid!Daliwch sylw, bobl Israel!Clywch, chi'r teulu brenhinol!Mae'r farn ar fin dod arnoch!Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa,a rhwyd i ddal pobl Tabor;

2. yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol,a bydda i'n eich cosbi chi i gyd.

3. Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim.Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i!Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio –mae Israel wedi ei llygru'n llwyr.

4. Mae eu drygioni'n eu rhwystrorhag troi yn ôl at eu Duw.Mae puteindra ysbrydol wedi eu meddiannu,a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.

5. Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni.A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.

6. Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr ARGLWYDDgyda'i defaid a'u geifr a'u bustych.Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi eu gadael nhw.

7. Maen nhw wedi bradychu'r ARGLWYDDac maen nhw wedi cael plant siawns.Yn fuan iawn, ar Ŵyl y Lleuad Newydd,byddan nhw a'u tir yn cael eu difa.

Rhybudd fod y farn yn dod

8. Chwythwch y corn hwrdd yn Gibea!Canwch utgorn yn Rama!Rhybuddiwch bobl Beth-afen!Ti fydd gyntaf, Benjamin!

9. Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi!Mae beth dw i'n ei ddweud wrth lwythau Israelyn mynd i ddigwydd.

10. Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy'n symud terfyn i ddwyn tir;a bydda i'n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd!

11. Bydd Effraim yn cael ei orthrymu,a'i sathru pan fydda i'n barnu;am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth.

12. Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim,fel pydredd i bobl Jwda.

13. Pan welodd Effraim ei fod yn sâl,a Jwda'n gweld ei ddolur,dyma Effraim yn troi at Asyriaam help gan ‛y brenin mawr‛.Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu.Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!

14. Fi sy'n ymosod ar Effraim a Jwda,fel llew yn rhwygo ei ysglyfaeth.Fi – ie, fi! Bydda i'n eu rhwygo nhw'n ddarnaua'i cario nhw i ffwrdd.Fydd neb yn gallu eu helpu.

15. Bydda i'n mynd yn ôl i'm ffaunes byddan nhw'n cyfaddef eu bai.Wedyn, byddan nhw'n chwilio amdana i;yn eu helbul, byddan nhw'n chwilio'n daer amdana i: