Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 6 beibl.net 2015 (BNET)

Y bobl yn esgus troi at Dduw

1. “Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr ARGLWYDD.Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu!Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau!

2. Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig;bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o bryd.Cawn fyw yn ei gwmni,

3. a'i nabod yn iawn.Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD.Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri.Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.”

4. O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim?Beth wna i gyda chi, bobl Jwda?Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore,neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar.

5. Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro.Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn.Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr.

6. Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau!Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi.

7. Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda!Maen nhw wedi fy mradychu i!

8. Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg,ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd.

9. Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron,yn cuddio i ymosod ar bobl –yn llofruddio ar y ffordd i Sichem.Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg!

10. Dw i wedi gweld pobl Israelyn gwneud pethau cwbl ffiaidd!Mae Effraim yn puteinio –mae Israel wedi ei llygru'n llwyr!

Petai Israel yn troi cefn ar ei phechod

11. Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda!Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto;