Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 1 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Hosea fab Beëri. Roedd yn proffwydo pan oedd Wseia, Jotham, Ahas a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas, yn frenin ar Israel.

Gwraig a plant Hosea

2. Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy'n puteinio. Bydd hi'n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy'n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.”

3. Felly dyma Hosea yn priodi Gomer, merch Diblaim. Dyma hi'n cael ei hun yn feichiog, ac yn geni mab iddo.

4. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw fe'n Jesreel, achos yn fuan iawn dw i'n mynd i gosbi llinach frenhinol Jehw am y tywallt gwaed yn Jesreel. Dw i'n mynd i ddod â teyrnas Israel i ben.

5. Bydda i'n dinistrio grym milwrol Israel yn Nyffryn Jesreel.”

6. Pan oedd Gomer yn feichiog eto, dyma hi'n cael merch y tro yma. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw hi'n Lo-rwhama (sef ‛dim trugaredd‛). Fydda i'n dangos dim trugaredd at wlad Israel o hyn ymlaen. Maen nhw wedi fy mradychu i.

7. Ond bydda i yn dangos trugaredd at wlad Jwda. Fi, yr ARGLWYDD eu Duw, fydd yn eu hachub nhw, nid arfau a grym milwrol a rhyfela.”

8. Cyn gynted ag roedd Gomer wedi stopio bwydo Lo-rwhama ar y fron, roedd hi'n feichiog eto, a dyma hi'n cael mab arall.

9. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Galw fe'n Lo-ammi (sef ‛dim fy mhobl‛). Achos dych chi ddim yn bobl i mi, a dw i ddim yn Dduw i chi.”

Gobaith i Israel

10. Ond yn y dyfodol, bydd poblogaeth Israel fel y tywod ar lan y môr – yn amhosib i'w cyfrif. Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, “Dych chi ddim yn bobl i mi” byddan nhw'n cael eu galw yn “blant y Duw byw”!

11. Bydd pobl Jwda a pobl Israel yn uno gyda'i gilydd. Byddan nhw'n dewis un arweinydd, ac yn codi eto o'r tir. Bydd hi'n ddiwrnod mawr i Jesreel!