Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 21 beibl.net 2015 (BNET)

Geni Isaac

1. Gwnaeth yr ARGLWYDD yn union fel yr oedd wedi ei addo i Sara.

2. Dyma hi'n beichiogi, ac yn cael mab i Abraham pan oedd e'n hen ddyn, ar yr union adeg roedd Duw wedi'i ddweud.

3. Galwodd Abraham y mab gafodd Sara yn Isaac.

4. Pan oedd y babi yn wythnos oed dyma Abraham yn enwaedu ei fab Isaac, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.

5. (Roedd Abraham yn gan mlwydd oed pan gafodd Isaac ei eni.)

6. A dyma Sara'n dweud,“Mae Duw wedi gwneud i mi chwerthin yn llawen:a bydd pawb sy'n clywed am y peth yn chwerthin gyda mi.”

7. Ac meddai,“Fyddai neb erioed wedi dweud wrth Abraham,‘Bydd Sara yn magu plant’!Ond dyma fi, wedi rhoi mab iddo, ac yntau'n hen ddyn!”

Gyrru Hagar ac Ishmael i ffwrdd

8. Roedd y plentyn bach yn tyfu. Pan stopiodd gael ei fwydo ar y fron dyma Abraham yn trefnu parti i ddathlu.

9. Sylwodd Sara ar y mab gafodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn gwneud hwyl am ben ei mab hi, Isaac

10. A dyma hi'n dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared â'r gaethferch yna a'i mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!”

11. Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo.

12. Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimlo'n ddrwg am y bachgen a'i fam. Gwna bopeth mae Sara'n ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.

13. Ond bydda i'n gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.”

14. Felly dyma Abraham yn codi'n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar ei gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda'i mab, ac aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.

15. Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hi'n gadael y bachgen dan gysgod un o'r llwyni.

16. Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crïo'n uchel.

17. Ond clywodd Duw lais y bachgen. A dyma angel Duw yn galw ar Hagar o'r nefoedd, a gofyn iddi, “Beth sy'n bod, Hagar? Paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed llais y bachgen.

18. Tyrd, cod y bachgen ar ei draed a'i ddal yn dynn. Dw i'n mynd i wneud cenedl fawr ohono.”

19. Yna dyma Duw yn gwneud iddi sylwi fod yna ffynnon yno. Dyma hi'n mynd i lenwi'r botel groen hefo dŵr, a rhoi peth i'r bachgen i'w yfed.

20. Roedd Duw yn gofalu am y bachgen wrth iddo dyfu. Roedd yn byw yn yr anialwch a daeth yn fwasaethwr gwych.

21. Roedd yn byw yn anialwch Paran. A dyma'i fam yn trefnu iddo briodi gwraig o wlad yr Aifft.

Y Cytundeb rhwng Abraham ac Abimelech

22. Tua'r adeg honno dyma Abimelech, a dyn o'r enw Pichol, pennaeth ei fyddin, yn cyfarfod gydag Abraham. “Mae'n amlwg fod Duw gyda ti bob amser,” meddai Abimelech.

23. “Dw i am i ti addo i mi o flaen Duw na fyddi di'n troi yn fy erbyn i na'm plant a'm pobl. Dw i wedi bod yn garedig atat ti, felly bydd di'n garedig ata i a phobl y wlad yma lle rwyt ti wedi setlo i fyw.”

24. “Dw i'n addo,” meddai Abraham.

25. Ond yna dyma Abraham yn gwneud cwyn am y ffynnon roedd gweision Abimelech wedi ei dwyn oddi arno.

26. “Dw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn,” meddai Abimelech. “Beth bynnag, wnest ti ddim dweud wrtho i. Dyma'r cyntaf i mi glywed am y peth.”

27. Yna dyma Abraham yn rhoi defaid ac ychen i Abimelech a dyma'r ddau yn gwneud cytundeb.

28. Ond roedd Abraham wedi rhoi saith oen banw ar un ochr.

29. A gofynnodd Abimelech iddo, “Beth ydy'r saith oen banw yma wyt ti wedi eu gosod ar wahân?”

30. “Dw i eisiau i ti gymryd y saith oen banw yma gen i fel tystiolaeth mai fi sydd wedi cloddio'r ffynnon yma,” meddai Abraham.

31. Dyna pam y galwodd y lle yn Beersheba, am fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd ar eu llw yno.

32. Ar ôl gwneud y cytundeb yn Beersheba, dyma Abimelech a Pichol, pennaeth ei fyddin, yn mynd yn ôl adre i wlad y Philistiaid.

33. Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beersheba. Addolodd yr ARGLWYDD yno, sef y Duw sy'n byw am byth.

34. Arhosodd Abraham yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.