1. Beth amser wedyn, dyma brif-wetar a pen-pobydd y palas brenhinol yn pechu yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
2. Roedd y Pharo yn wyllt gynddeiriog gyda'i ddau swyddog,
3. a thaflodd nhw i'r carchar ble roedd Joseff, sef carchar capten y gwarchodlu.
4. Rhoddodd y capten y gwaith o edrych ar eu holau i Joseff. Roedd yn gweini arnyn nhw, a buon nhw yn y carchar am amser hir.
5. Un noson dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd – prif-wetar a pen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.
6. Pan ddaeth Joseff i mewn atyn nhw y bore wedyn, sylwodd fod y ddau yn poeni am rywbeth.
7. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Pam ydych chi'n edrych mor ddigalon?”
8. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio'r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy'n gallu esbonio'r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.”
9. Felly dyma'r prif-wetar yn dweud wrth Joseff am ei freuddwyd, “Yn fy mreuddwyd i roeddwn i'n gweld gwinwydden.
10. Roedd tair cangen ar y winwydden. Dechreuodd flaguro a blodeuo, ac wedyn roedd sypiau o rawnwin yn aeddfedu arni.
11. Roedd cwpan y Pharo yn fy llaw. A dyma fi'n cymryd y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan y Pharo, a'i roi iddo i'w yfed.”
12. Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma'r ystyr. Mae'r tair cangen y cynrychioli tri diwrnod.
13. Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di'n rhoi ei gwpan i'r Pharo eto, fel roeddet ti'n arfer gwneud pan oeddet ti'n brif-wetar.
14. Ond cofia amdana i pan fydd pethau'n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o'r carchar yma.
15. Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y dwnsiwn yma.”
16. Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Ro'n i'n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen.
17. Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi eu pobi i'r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o'r fasged oedd ar fy mhen i.”
18. A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy'r ystyr. Mae'r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod.
19. Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.”
20. Ddeuddydd wedyn roedd pen-blwydd y Pharo, a dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Daeth â'r prif-wetar a'r pen-pobydd allan o'r carchar.
21. Rhoddodd ei swydd yn ôl i'r prif-wetar, a dechreuodd weini ar y Pharo eto.
22. Wedyn gorchmynnodd grogi corff y pen-pobydd ar bolyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud.
23. Ond anghofiodd y prif-wetar yn llwyr am Joseff.