Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 30 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan sylweddolodd Rachel ei bod hi'n methu cael plant, roedd hi'n genfigennus o'i chwaer. “Dw i'n mynd i farw os wnei di ddim rhoi plant i mi!” meddai hi wrth Jacob.

2. Ond dyma Jacob yn digio go iawn gyda hi. “Ai Duw ydw i? Duw sydd wedi dy rwystro di rhag cael plant.”

3. Yna dyma Rachel yn dweud, “Cymer fy morwyn i, Bilha. Cysga gyda hi, er mwyn iddi hi gael plant i mi eu magu. Ga i deulu drwyddi hi.”

4. Felly dyma Rachel yn rhoi ei morwyn Bilha yn wraig iddo, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.

5. A dyma Bilha yn beichiogi ac yn cael mab i Jacob.

6. “Mae Duw wedi dyfarnu o'm plaid i,” meddai Rachel. “Mae wedi fy nghlywed i, a rhoi mab i mi.” A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Dan.

7. Dyma Bilha, morwyn Rachel, yn beichiogi eto, a rhoi mab arall i Jacob.

8. A dyma Rachel yn dweud, “Dw i wedi ymladd yn galed yn erbyn fy chwaer, ac wedi ennill!” Felly dyma hi'n ei alw'n Nafftali.

9. Pan sylweddolodd Lea ei bod hi wedi stopio cael plant, dyma hithau'n rhoi ei morwyn Silpa yn wraig i Jacob.

10. A dyma Silpa, morwyn Lea, yn cael mab i Jacob.

11. “Am lwc dda!” meddai. A dyna pam wnaeth hi alw'r plentyn yn Gad.

12. Wedyn cafodd Silpa ail fab i Jacob.

13. “Dw i mor hapus!” meddai Lea. “Bydd merched yn dweud mor hapus ydw i.” Felly dyma hi'n ei alw yn Asher.

14. Un diwrnod, ar adeg y cynhaeaf gwenith, aeth Reuben allan a dod o hyd i ffrwythau cariad mewn cae. A daeth â nhw yn ôl i'w fam, Lea. Yna dyma Rachel yn gofyn i Lea, “Plîs ga i rai o'r ffrwythau cariad wnaeth dy fab eu ffeindio?”

15. Ond atebodd Lea, “Oedd cymryd fy ngŵr i ddim yn ddigon gen ti? Wyt ti nawr am gymryd y ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab hefyd?” Felly dyma Rachel yn dweud wrthi, “Cei di gysgu gydag e heno os ca i'r ffrwythau cariad ffeindiodd dy fab.”

16. Pan oedd Jacob ar ei ffordd yn ôl o'r caeau gyda'r nos, aeth Lea allan i'w gyfarfod. “Rhaid i ti gysgu hefo fi heno,” meddai wrtho. “Dw i wedi talu am dy gael di gyda'r ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab.” Felly dyma Jacob yn cael rhyw gyda hi y noson honno.

17. A dyma Duw yn gwrando ar Lea, a dyma hi'n beichiogi ac yn cael ei phumed mab i Jacob.

18. “Mae Duw wedi rhoi gwobr i mi am roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly dyma hi'n ei alw yn Issachar.

19. Yna dyma Lea'n beichiogi eto a rhoi chweched mab i Jacob.

20. “Mae Duw wedi rhoi rhodd hael i mi i'w chyflwyno i'm gŵr. Bydd yn fy nghyfri i'n sbesial, am fy mod i wedi rhoi chwe mab iddo.” Felly dyma hi'n galw'r plentyn yn Sabulon.

21. Wedyn dyma hi'n cael merch, a'i galw hi'n Dina.

22. Ond doedd Duw ddim wedi anghofio Rachel. Dyma fe'n gwrando ar ei gweddi a rhoi plant iddi.

23. Dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. “Mae Duw wedi symud y cywilydd oeddwn i'n deimlo,” meddai.

24. Galwodd hi'r plentyn yn Joseff. “Boed i'r ARGLWYDD roi mab arall i mi!” meddai.

Llwyddiant Jacob

25. Ar ôl i Joseff gael ei eni i Rachel, dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Gad i mi fynd! Dw i eisiau mynd adre i'm gwlad fy hun.

26. Gad i mi fynd gyda'r gwragedd a'r plant wnes i weithio i ti amdanyn nhw. Ti'n gwybod mor galed dw i wedi gweithio i ti.”

27. Ond atebodd Laban, “Plîs wnei di ystyried aros yma? Dw i wedi dod yn gyfoethog, ac mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i am dy fod ti gyda mi.

28. Dywed faint o gyflog wyt ti eisiau, a gwna i ei dalu!”

29. A dyma Jacob yn dweud, “Ti'n gwybod fel dw i wedi gweithio i ti, ac mor dda mae'r anifeiliaid dw i'n gofalu amdanyn nhw wedi gwneud.

30. Ychydig oedd gen ti cyn i mi ddod. Ond bellach mae gen ti lot fawr. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di ble bynnag roeddwn i'n gweithio. Mae'n bryd i mi wneud rhywbeth i'm teulu fy hun.”

31. “Dw i'n fodlon rhoi faint bynnag ti'n gofyn amdano,” meddai Laban. “Does dim rhaid i ti roi dim byd i mi,” meddai Jacob. “Ond os wna i edrych ar ôl dy breiddiau di a'u cadw nhw'n saff, dw i am i ti gytuno i un peth.

32. Gad i mi fynd trwyddyn nhw i gyd heddiw, a dewis pob dafad frith ac oen du, a'r un fath gyda'r geifr. Dyna fydd fy nghyflog i.

33. Byddi bob amser yn gallu gweld os ydw i wedi bod yn onest. Gelli archwilio fy nghyflog unrhyw bryd. Os bydd gen i afr sydd ddim yn frith, neu ddafad sydd ddim yn ddu, byddi di'n gwybod fy mod i wedi dwyn honno.”

34. “Cytuno!” meddai Laban. “Gad i ni wneud beth rwyt ti'n ei awgrymu.”

35. Ond y diwrnod hwnnw dyma Laban yn symud y bychod geifr brith, a'r geifr brith (pob un oedd ag ychydig o wyn arnyn nhw). Symudodd y defaid duon hefyd, a rhoi'r anifeiliaid hynny i gyd i'w feibion i edrych ar eu holau.

36. Aeth â nhw daith tridiau i ffwrdd oddi wrth Jacob a gwnaeth i Jacob ofalu am weddill y praidd.

37. Wedyn dyma Jacob yn cymryd brigau gleision o goed poplys, almon a phlanwydden. Tynnodd beth o'r rhisgl i ffwrdd fel bod stribedi gwyn ar y gwiail.

38. Rhoddodd y gwiail o flaen y cafnau dŵr ble roedd y preiddiau'n dod i yfed. Roedd yr anifeiliaid yn paru pan fydden nhw'n dod i yfed.

39. Pan oedd y geifr yn bridio o flaen y gwiail, roedd y rhai bach fyddai'n cael eu geni yn rhai brith.

40. Roedd hefyd yn cymryd y defaid oedd yn gofyn hwrdd ac yn gwneud iddyn nhw wynebu'r anifeiliaid brithion a'r rhai duon ym mhraidd Laban. Roedd yn cadw ei braidd ei hun ar wahân, a ddim yn eu cymysgu â phraidd Laban.

41. Pan oedd yr anifeiliaid cryfion yn paru, roedd Jacob yn rhoi'r gwiail wrth y cafnau, er mwyn iddyn nhw fridio wrth ymyl y gwiail.

42. Ond doedd e ddim yn gosod y gwiail o flaen yr anifeiliaid gwan yn y praidd. Felly roedd yr anifeiliaid gwannaf yn perthyn i Laban, a'r rhai cryfaf yn perthyn i Jacob.

43. Felly daeth Jacob yn ddyn cyfoethog iawn. Roedd ganddo breiddiau mawr, gweision a morynion, camelod ac asynnod.