Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 18 beibl.net 2015 (BNET)

Duw yn addo mab i Abraham a Sara

1. Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i'w babell.

2. Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o'u blaenau.

3. “Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Ga i'r fraint o'ch gwahodd chi i aros yma am ychydig?

4. Cewch ddŵr i olchi eich traed, a chyfle i orffwys dan y goeden yma.

5. Af i nôl ychydig o fwyd i'ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae'n fraint i mi eich bod wedi dod heibio cartre'ch gwas.” A dyma nhw'n ateb, “Iawn, gwna di hynny.”

6. Brysiodd Abraham i mewn i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid o flawd mân i wneud bara”

7. Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i'w was i'w baratoi ar frys.

8. Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi ei rostio a'i osod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra roedden nhw'n bwyta.

9. “Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau.

10. A dyma un ohonyn nhw'n dweud, “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd.

11. (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.)

12. Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd Sara'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.”

13. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’

14. Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.”

15. Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”

Abraham yn pledio ar ran Sodom

16. Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd.

17. A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham?

18. Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwyddo.

19. Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a pawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”

20. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn!

21. Dw i am fynd i lawr i weld os ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.”

22. Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra roedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

23. Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti?

24. Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn. Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna?

25. Alla i ddim credu y byddet ti'n gwneud y fath beth – lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a'r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy'n iawn?”

26. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i'n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i'n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.”

27. Felly dyma Abraham yn dweud, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr, a dw i'n gwybod nad ydw i'n neb,

28. Beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti'n dinistrio'r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim dinistrio'r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.”

29. A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.”

30. Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.”

31. “Dw i'n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe'n ateb “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.”

32. A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.”

33. Ar ôl iddo orffen siarad gydag Abraham dyma'r ARGLWYDD yn mynd i ffwrdd. Yna aeth Abraham adre.