1. Dwedodd Duw wrth Jacob, “Dos i fyny i Bethel i fyw. Gwna allor yno i addoli'r Duw ddaeth atat ti pan oeddet ti'n dianc oddi wrth dy frawd Esau.”
2. Felly dyma Jacob yn dweud wrth ei deulu a phawb arall oedd gydag e, “Rhaid i chi gael gwared â'r duwiau eraill sydd gynnoch chi. Ymolchwch a gwisgwch ddillad glân.
3. Wedyn gadewch i ni fynd i Bethel. Dw i eisiau codi allor yno i'r Duw wnaeth fy ateb i pan oedd pethau'n anodd arna i. Mae e wedi bod gyda mi bob cam o'r ffordd.”
4. Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Dyma Jacob yn claddu'r cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem,
5. a dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw.
6. Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan.
7. Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau.
8. A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.
9. A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram).
10. Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel.
11. Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
12. Ti sydd i gael y wlad rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.”
13. Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob.
14. Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad gydag e. Colofn garreg oedd hi, a tywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd.
15. Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad gydag e yn Bethel.
16. Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed.
17. Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.”
18. A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; ond galwodd ei dad e yn Benjamin.
19. Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef, Bethlehem).
20. Cododd Jacob gofgolofn wrth ei bedd, ac mae yno hyd heddiw – Cofeb Bedd Rachel.
21. Teithiodd Israel (sef Jacob) yn ei flaen, a gwersylla yr ochr draw i Migdal-eder.
22. Tra roedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth.Roedd gan Jacob un deg dau o feibion:
23. Meibion Lea: Reuben (mab hynaf Jacob), Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
24. Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.
25. Meibion Bilha, morwyn Rachel: Dan a Nafftali.
26. Meibion Silpa, morwyn Lea: Gad ac Asher.Dyma'r meibion gafodd eu geni i Jacob yn Padan-aram.
27. Felly daeth Jacob yn ôl at ei dad Isaac i Mamre, yn Ciriath-arba (sef Hebron). Dyna ble roedd Abraham ac Isaac wedi bod yn byw fel mewnfudwyr.
28. Roedd Isaac yn 180 oed
29. pan fuodd farw yn hen ddyn, a mynd yr un ffordd â'i hynafiaid. A dyma'i feibion Esau a Jacob yn ei gladdu.