Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 2 beibl.net 2015 (BNET)

Duw yn gorffwys ar y seithfed diwrnod

1. Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo.

2. Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith.

3. Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a'i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna'r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.

Gardd Eden

4. Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu:Pan wnaeth Duw y bydysawd,

5. doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir.

6. Ond roedd dŵr yn codi o'r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir.

7. Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o'r pridd. Wedyn chwythodd i'w ffroenau yr anadl sy'n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw.

8. Yna dyma'r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua'r dwyrain, yn Eden, a rhoi'r dyn roedd wedi ei siapio yno.

9. Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o'r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i'w bwyta. (Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy'n rhoi bywyd a'r goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg.)

10. Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio'r ardd. Wedyn roedd yn rhannu'n bedair cangen.

11. Pison ydy enw un. Mae hi'n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur.

12. (Mae'r aur sydd yno yn bur iawn. Mae perlau ac onics yno hefyd.)

13. Gihon ydy enw'r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh.

14. Tigris ydy enw'r drydedd afon. Mae hi'n llifo i'r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw'r bedwaredd afon.

15. Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a'i osod yn yr ardd yn Eden, i'w thrin hi a gofalu amdani.

16. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd,

17. ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi'n siŵr o farw.”

18. Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i'n mynd i wneud cymar iddo i'w gynnal.”

19. A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o'r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai'n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un ohonyn nhw.

20. Rhoddodd enwau i'r anifeiliaid, i'r adar, ac i'r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i'w gynnal.

21. Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i'r dyn gysgu'n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le.

22. Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o'r darn oedd wedi ei gymryd o'r dyn, a dod â hi at y dyn.

23. A dyma'r dyn yn dweud,“O'r diwedd! Un sydd yr un fath â fi!Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd.‛Dynes‛ fydd yr enw arni,am ei bod wedi ei chymryd allan o ddyn.”

24. Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig. Maen nhw'n dod yn uned deuluol newydd.

25. Roedd y dyn a'i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.