Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23 beibl.net 2015 (BNET)

Cyfiawnder i bawb

1. Paid hel straeon sydd ddim yn wir. Paid helpu pobl ddrwg drwy ddweud celwydd yn y llys.

2. Paid dilyn y dorf i wneud drwg. Paid rhoi tystiolaeth ffals sydd ddim ond yn cydfynd gyda beth mae pawb arall yn ei ddweud.

3. A paid dangos ffafriaeth at rywun mewn achos llys dim ond am ei fod yn dlawd.

4. Os wyt ti'n dod o hyd i darw neu asyn dy elyn yn crwydro, dos â'r anifail yn ôl i'w berchennog.

5. Os wyt ti'n gweld asyn rhywun sy'n dy gasáu di wedi syrthio dan ei faich, paid pasio heibio; dos i'w helpu i godi.

6. Paid gwrthod cyfiawnder i rywun mewn achos llys am ei fod yn dlawd.

7. Paid byth a cyhuddo pobl ar gam – rhag i rywun dieuog gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Bydda i'n cosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.

8. Paid derbyn breib. Mae breib yn dallu'r sawl sy'n gweld yn glir, ac yn tanseilio achos pobl sy'n ddieuog.

9. Paid cam-drin mewnfudwr. Ti'n gwybod yn iawn sut deimlad ydy e – mewnfudwyr oeddech chi yn yr Aifft.

Dyddiau arbennig

10. Rwyt i hau cnydau a chasglu'r cynhaeaf am chwe mlynedd.

11. Ond yna ar y seithfed flwyddyn mae'r tir i gael gorffwys, heb gael ei drin. Bydd y bobl dlawd yn cael casglu a bwyta beth bynnag sy'n tyfu ohono'i hun, a'r anifeiliaid gwylltion yn cael beth sy'n weddill. Gwna'r un peth gyda dy winllan a dy goed olewydd.

12. Rwyt i weithio am chwe diwrnod, a gorffwys ar y seithfed. Bydd yn rhoi cyfle i dy ychen a dy asyn orffwys, ac i'r caethweision sydd wedi eu geni yn dy dŷ a'r mewnfudwr sy'n gweithio i ti ymlacio.

13. Gwyliwch eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthoch chi. Peidiwch talu sylw i dduwiau eraill, na hyd yn oed eu henwi nhw!

Y Tair Gŵyl Flynyddol

14. Bob blwyddyn dych chi i gynnal tair gŵyl i mi.

15. Yn gyntaf, Gŵyl y Bara Croyw. Ar ddyddiau arbennig yn mis Abib byddwch yn dathlu dod allan o wlad yr Aifft. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, fel dwedais i bryd hynny. Does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu.

16. Yna Gŵyl y Cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â ffrwyth cyntaf eich cnydau i mi.Ac yn olaf, Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf, ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch wedi gorffen casglu eich cnydau i gyd.

17. Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, sef yr ARGLWYDD.

18. Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A dydy'r brasder ddim i'w adael heb ei losgi dros nos.

19. Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw.Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”

Addewid a rhybudd

20. “Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, i'ch cadw chi'n saff pan fyddwch chi'n teithio, ac i'ch arwain i'r lle dw i wedi ei baratoi ar eich cyfer chi.

21. Gwrandwch arno, a gwnewch beth mae e'n ddweud. Peidiwch tynnu'n groes iddo achos fydd e ddim yn maddau i chi. Fi sydd yna ynddo fe.

22. Ond os gwnewch chi wrando arno, a gwneud beth dw i'n ddweud, bydda i'n ymladd yn erbyn y gelynion fydd yn codi yn eich erbyn chi.

23. Bydd fy angel yn eich arwain chi at yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hefiaid a Jebwsiaid, a bydda i'n eu dinistrio nhw'n llwyr.

24. Peidiwch plygu i lawr i addoli eu duwiau nhw, na dilyn eu harferion nhw. Dw i eisiau i chi eu dinistrio nhw'n llwyr, a malu eu colofnau cysegredig yn ddarnau.

25. Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, a bydd e'n rhoi bara i chi ei fwyta a dŵr i chi ei yfed, ac yn eich cadw chi'n iach.

26. Fydd yna ddim gwragedd sy'n methu cael plant, na gwragedd beichiog yn colli eu plant, a bydd pawb yn cael byw yn hir.

27. “Bydda i'n achosi braw wrth i bobl eich gweld chi'n dod. Byddai'n dinistrio'r bobloedd fyddwch chi'n dod ar eu traws. Byddan nhw'n dianc oddi wrthoch chi.

28. Bydda i'n achosi panig llwyr, ac yn gyrru'r Hefiaid, Canaaneaid a Hethiaid allan o'ch ffordd.

29. Ond fydd hyn ddim yn digwydd i gyd ar yr un pryd. Does gen i ddim eisiau i'r wlad droi'n anialwch, ac anifeiliaid gwylltion yn cymryd drosodd.

30. Bydda i'n eu gyrru nhw allan bob yn dipyn, i roi cyfle i'ch poblogaeth chi dyfu digon i lenwi'r wlad.

31. “Bydda i'n gosod ffiniau i chi o'r Môr Coch i Fôr y Canoldir, ac o'r anialwch i Afon Ewffrates. Bydda i'n gwneud i chi goncro'r wlad, a byddwch yn gyrru'r bobloedd sy'n byw yno allan.

32. Rhaid i chi beidio gwneud cytundeb gwleidyddol gyda nhw, na chael dim i'w wneud â'i duwiau nhw.

33. Dŷn nhw ddim i gael byw yn y wlad, rhag iddyn nhw wneud i chi bechu yn fy erbyn i. Bydd hi ar ben arnoch chi os gwnewch chi ddechrau addoli eu duwiau nhw.”