Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi piau nhw.”

Gŵyl y Bara Croyw

3. Dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Mae'r diwrnod yma pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, yn ddiwrnod i'w gofio. Roeddech chi'n gaethion yno, a dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth i'ch rhyddhau chi. Ond peidiwch bwyta bara wedi ei wneud gyda burum pan fyddwch chi'n dathlu.

4. Dyma'r diwrnod, ym mis Abib, pan aethoch chi allan.

5. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi – gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn.

6. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i'r ARGLWYDD.

7. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Does dim bara wedi ei wneud gyda burum, na hyd yn oed y burum ei hun i fod yn unman.

8. Yna dych chi i esbonio i'ch plant, ‘Dŷn ni'n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o'r Aifft.’

9. Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o'r Aifft.

10. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn.

Cysegru'r mab cyntaf i gael ei eni

11. “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid chi,

12. rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd piau nhw.

13. Gellir prynu'n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e'n cael ei brynu rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl hefyd.

14. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’ dych chi i'w hateb, ‘yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft, lle roedden ni'n gaethion.

15. Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni'n rhydd, felly dyma'r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw oedd gyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni'n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i'r ARGLWYDD. Ond dŷn ni'n prynu'n ôl pob mab sydd y cyntaf i gael ei eni.’

16. Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i'ch atgoffa fod yr ARGLWYDD wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft.”

Y daith at y Môr Coch

17. Pan wnaeth y Pharo adael i'r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai'r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i'r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i'r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw.

18. Felly dyma Duw yn mynd â'r bobl drwy'r anialwch at y Môr Coch. Aeth pobl Israel allan o'r Aifft fel byddin yn ei rhengoedd.

19. Dyma Moses yn mynd ag esgyrn Joseff gyda nhw. Roedd Joseff wedi gwneud i bobl Israel addo, “Dw i'n gwybod y bydd Duw yn gofalu amdanoch chi. Dw i eisiau i chi fynd â'm hesgyrn i gyda chi o'r lle yma.”

20. Dyma nhw'n gadael Swccoth ac yn gwersylla yn Etham wrth ymyl yr anialwch.

21. Roedd yr ARGLWYDD yn arwain y ffordd mewn colofn o niwl yn ystod y dydd, a cholofn o dân yn y nos. Felly roedden nhw'n gallu teithio yn y dydd neu'r nos.

22. Roedd y golofn o niwl gyda nhw bob amser yn y dydd, a'r golofn o dân yn y nos.