Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 7 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Bydda i'n dy wneud di fel ‛duw‛ i'r Pharo, a dy frawd Aaron fel dy broffwyd.

2. Rwyt i ddweud popeth dw i'n ei orchymyn i ti, ac mae dy frawd Aaron i ddweud wrth y Pharo fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad.

3. Ond bydda i'n gwneud y Pharo'n ystyfnig. Bydda i'n gwneud lot fawr o arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft,

4. ond fydd y Pharo ddim yn gwrando. Felly bydda i'n taro'r Aifft, eu cosbi nhw'n llym, ac yn arwain fy mhobl Israel allan o'r wlad mewn rhengoedd trefnus.

5. Wedyn bydd pobl yr Aifft yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n taro'r Aifft ac arwain pobl Israel allan o'i gwlad nhw.”

6. Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw.

7. Roedd Moses yn wyth deg oed, ac Aaron yn wyth deg tri, pan aethon nhw i siarad â'r Pharo.

Ffon Aaron yn troi'n neidr

8. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron,

9. “Pan fydd y Pharo yn dweud, ‘Dangoswch wyrth i mi,’ dywed wrth Aaron am daflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo, a bydd y ffon yn troi'n neidr anferth.”

10. Pan aeth Moses ac Aaron at y Pharo, dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma Aaron yn taflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo a'i swyddogion, a dyma'r ffon yn troi'n neidr anferth.

11. Ond yna dyma'r Pharo yn galw am swynwyr doeth a consurwyr – dewiniaid yr Aifft, oedd yn gwneud yr un math o beth drwy hud a lledrith.

12. Dyma nhw i gyd yn taflu eu ffyn ar lawr, a dyma'r ffyn yn troi'n nadroedd. Ond dyma ffon Aaron yn llyncu eu ffyn nhw i gyd!

13. Ond roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Y deg trychineb yn taro'r Aifft

Dŵr yn troi'n waed

14. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Mae'r Pharo mor ystyfnig. Mae'n gwrthod rhyddhau y bobl.

15. Bore yfory dos i'w gyfarfod pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dos i sefyll ar lan yr Afon Nil, yn disgwyl amdano. Dos â dy ffon gyda ti, sef yr un wnaeth droi'n neidr.

16. Dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti i ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw fy addoli i yn yr anialwch!” Ond hyd yn hyn rwyt ti wedi gwrthod gwrando.

17. Felly mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dyma sut rwyt ti'n mynd i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD: Dw i'n mynd i daro dŵr yr Afon Nil gyda'r ffon yma, a bydd yn troi yn waed.

18. Bydd y pysgod yn marw, a bydd yr Afon Nil yn drewi. Fydd pobl yr Aifft ddim yn gallu yfed dŵr ohoni.”’”

19. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros ddyfroedd yr Aifft – yr afonydd, y camlesi, y corsydd a'r dŵr sydd wedi ei gasglu – er mwyn i'r cwbl droi'n waed. Bydd gwaed drwy'r wlad i gyd, hyd yn oed yn y bwcedi pren a'r cafnau carreg.”

20. Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Codi'r ffon a taro dŵr yr Afon Nil o flaen llygaid y Pharo a'i swyddogion. A dyma ddŵr yr Afon Nil yn troi'n waed.

21. Dyma'r pysgod yn yr afon yn marw, ac roedd y dŵr yn drewi mor ofnadwy, doedd pobl yr Aifft ddim yn gallu ei yfed. Roedd gwaed drwy wlad yr Aifft i gyd!

22. Ond dyma ddewiniaid yr Aifft yn gwneud yr un peth drwy hud a lledrith. Felly roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

23. Dyma'r Pharo'n mynd yn ôl i'w balas, yn poeni dim am y peth.

24. Ond roedd pobl gyffredin yr Aifft yn gorfod cloddio am ddŵr, am eu bod yn methu yfed dŵr yr Afon Nil.

Pla o lyffaint

25. Aeth wythnos lawn heibio ar ôl i'r ARGLWYDD daro'r afon.