Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 26 beibl.net 2015 (BNET)

Y Tabernacl

1. “Mae'r Tabernacl ei hun i gael ei wneud o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.

2. Mae pob llen i fod yn un deg dau metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.

3. Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.

4. Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set –

5. hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd.

6. Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.

7. “Yna nesaf gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw.

8. Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.

9. Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r chwech arall i gael eu gwnïo at ei gilydd. Mae'r chweched llen yn yr ail grŵp o lenni, i'w phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell.

10. Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set,

11. a hanner can bachyn pres i fynd trwy'r dolenni i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.

12. Mae'r hanner llen sydd dros ben i'w adael yn hongian dros gefn y Tabernacl.

13. Yna ar ddwy ochr y Tabernacl bydd yr hanner metr ychwanegol yn golygu fod y darn sy'n hongian dros yr ymyl yn ei gorchuddio hi i'r llawr.

14. “Yna'n olaf, dau orchudd arall dros y cwbl – un wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, a gorchudd allanol o grwyn môr-fuchod.

15. “Mae fframiau'r Tabernacl i'w gwneud allan o goed acasia.

16. Mae pob un i fod yn bedwar metr o hyd, a chwe deg chwech centimetr o led,

17. gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd.

18. Rhaid gwneud dau ddeg ffrâm i ochr ddeheuol y Tabernacl,

19. a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.

20. Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol.

21. A pedwar deg soced iddyn nhw – dwy soced dan bob ffrâm.

22. Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol,

23. a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn.

24. Yn y corneli mae dau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Mae'r fframiau ar y ddwy gornel i fod yr un fath.

25. Mae hynny'n gwneud wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.

26-27. “Yna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.

28. Mae'r croesfar ar ganol y fframiau i ymestyn o un pen i'r llall.

29. Mae'r fframiau a'r croesfarrau i gael eu gorchuddio gydag aur, ac mae'r cylchoedd sy'n dal y croesfarrau i gael eu gwneud o aur hefyd.

30. “Pan fyddi'n codi'r Tabernacl, rhaid dilyn yr union fanylion gafodd eu rhoi i ti ar y mynydd.

31. “Rwyt i wneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.

32. Mae'r llen yma i hongian ar bedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur a'u gosod mewn socedi arian.

33. Mae'r llen i hongian ar fachau aur, ac wedyn mae Arch y dystiolaeth i'w gosod tu ôl i'r llen. Bydd y llen yn gwahanu'r Lle Sanctaidd oddi wrth y Lle Mwyaf Sanctaidd.

34. Yna mae'r caead i gael ei osod ar Arch y dystiolaeth yn y Lle Mwyaf Sanctaidd.

35. Wedyn mae'r bwrdd a'r menora (sef y stand i'r lampau) i gael eu gosod gyferbyn â'i gilydd tu allan i'r llen – y bwrdd ar ochr y gogledd, a'r menora ar ochr y de.

36. Wedyn rhaid gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Bydd hon eto wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei brodio gydag edau las, porffor a coch.

37. Mae i hongian ar bump polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur. Mae'r bachau i'w gwneud o aur, ac mae pum soced bres i gael eu gwneud i ddal y polion.