Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 11 beibl.net 2015 (BNET)

Rhybudd fod pob mab hynaf i farw

1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i daro'r Pharo a gwlad yr Aifft un tro olaf. Bydd e'n eich gollwng chi'n rhydd wedyn, heb unrhyw amodau. Yn wir, bydd e'n eich gyrru chi allan o'r wlad.

2. Dywed wrth bobl Israel fod pawb i ofyn i'w cymdogion am bethau wedi eu gwneud o arian ac aur.”

3. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a'r bobl gyffredin barch mawr ato.

4. A dyma Moses yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Tua canol nos bydda i'n mynd trwy wlad yr Aifft,

5. a bydd pob mab hynaf drwy'r wlad yn marw – o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r gaethferch sy'n troi y felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni.

6. Bydd pobl yn wylofain drwy wlad yr Aifft i gyd. Fydd dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen, a fydd dim byd tebyg byth eto.

7. Ond fydd dim yn bygwth pobl Israel na'u hanifeiliaid – dim hyd yn oed ci yn cyfarth! Byddwch chi'n deall wedyn fod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a pobl Israel.’

8. “Bydd dy swyddogion i gyd yn dod i edrych amdana i, ac yn plygu'n isel o'm blaen i. Byddan nhw'n dweud, ‘Ewch! – ti a'r bobl sy'n dy ddilyn di.’ Wedyn bydda i'n mynd.” Yna dyma Moses yn gadael y Pharo, wedi digio'n lân.

9. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Fydd y Pharo ddim yn gwrando arnoch chi. Felly dw i'n mynd i wneud mwy o wyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft.”

10. Er bod Moses ac Aaron wedi gwneud y gwyrthiau rhyfeddol yma o flaen y Pharo, roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud e'n ystyfnig. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd yn rhydd.