Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 36 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Felly mae Betsalel, Aholïab a'r crefftwyr eraill mae Duw wedi eu donio i wneud y gwaith o godi'r cysegr, i wneud popeth yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”

Trosglwyddo'r rhoddion i'r crefftwyr

2. Dyma Moses yn galw Betsalel ac Aholïab ato, a'r crefftwyr eraill roedd yr ARGLWYDD wedi eu donio – pob un oedd wedi ei sbarduno i wirfoddoli i helpu.

3. A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wedi eu hoffrymu i'r gwaith o godi'r cysegr.Ond roedd y bobl yn dod â mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore.

4. Felly dyma'r crefftwyr oedd yn gweithio ar y cysegr yn gadael eu gwaith,

5. a dweud wrth Moses, “Mae'r bobl wedi dod â mwy na digon i orffen y gwaith mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni ei wneud!”

6. Felly dyma Moses yn anfon neges allan drwy'r gwersyll, “Does dim angen mwy o bethau i'w cyflwyno'n rhoddion tuag at adeiladu'r cysegr!” Roedd rhaid stopio'r bobl rhag dod â mwy!

7. Roedd mwy na digon o bethau ganddyn nhw i wneud y gwaith i gyd.

Codi'r Tabernacl

8. Dyma'r crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl gyda deg llen o'r lliain main gorau gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.

9. Roedd pob llen yn un deg dau metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint.

10. Yna dyma bump o'r llenni yn cael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.

11. Wedyn gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set –

12. hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd.

13. Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.

14. Wedyn gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw.

15. Roedd pob llen yn un deg pump metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.

16. Yna gwnïo pump o'r llenni at ei gilydd, a gwnïo'r chwech arall at ei gilydd hefyd.

17. Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set,

18. a hanner can bachyn i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.

19. Wedyn gwneud gorchudd dros y babell wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch. Ac wedyn gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw.

20. Yna cafodd fframiau'r Tabernacl eu gwneud allan o goed acasia, pob un yn sefyll yn unionsyth.

21. Roedd pob un yn bedwar metr o hyd, a 66 centimetr o led,

22. gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd. Roedd y fframiau i gyd wedi eu gwneud yr un fath.

23. Roedd dau ddeg ffrâm ar ochr ddeheuol y Tabernacl,

24. a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.

25. Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol,

26. gyda pedwar deg soced i'w dal nhw – dwy soced dan bob ffrâm.

27. Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol,

28. a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn.

29. Yn y corneli roedd y ddau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Roedd y ddwy gornel yr un fath.

30. Felly roedd wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.

31-32. Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.

33. Roedd y croesfar ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.

34. Yna gorchuddio'r fframiau gyda haen o aur, a gwneud cylchoedd o aur i ddal y croesfarrau, a gorchuddio'r croesfarrau gydag aur hefyd.

35. Wedyn gwneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.

36. A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a pedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw.

37. Yna gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Hon eto wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei brodio gydag edau las, porffor a coch.

38. Yna gwneud pump polyn o goed acasia, a'r bachau aur. Gorchuddio top y polion gydag aur, a gwneud socedi o bres iddyn nhw.