Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 40 beibl.net 2015 (BNET)

Codi a chysegru'r Tabernacl

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rwyt i godi'r Tabernacl – Pabell presenoldeb Duw.

3. Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda'r sgrîn o'i blaen yn cuddio'r Arch.

4. Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni.

5. Rho'r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.

6. Yna gosod yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, Pabell presenoldeb Duw.

7. Rho'r ddysgl fawr rhwng Pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi gyda dŵr.

8. Yna gosod yr iard o'i chwmpas, a hongian llenni mynedfa'r iard.

9. “Wedyn cymer yr olew eneinio, a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i'w cysegru a'u gwneud yn sanctaidd.

10. Eneinia'r allor i losgi'r offrymau a'i hoffer i gyd. Cysegra'r allor i'w gwneud hi'n gwbl sanctaidd.

11. Yna eneinia'r ddysgl fawr a'i stand, i'w chysegru hi.

12. “Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a'i feibion at fynedfa Pabell presenoldeb Duw a'u golchi nhw gyda dŵr.

13. Arwisga fe gyda'r gwisgoedd cysegredig, a'i eneinio a'i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi.

14. Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau,

15. a'u heneinio nhw fel gwnest ti eneinio eu tad, iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid i mi. Drwy eu heneinio ti'n rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw o wasanaethu fel offeiriaid i mi ar hyd y cenedlaethau.”

16. Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

17. Cafodd y Tabernacl ei godi ar ddiwrnod cynta'r ail flwyddyn.

18. Dyma Moses yn ei godi drwy roi'r socedi yn eu lle, yna codi'r fframiau, cysylltu'r croesfarrau a rhoi'r polion yn eu lle.

19. Wedyn dyma fe'n lledu'r babell dros fframwaith y Tabernacl, a'r gorchudd dros hwnnw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

20. Yna dyma fe'n gosod Llechi'r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu'r polion iddi a rhoi'r caead arni.

21. Wedyn mynd â'r Arch i'r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o'i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

22. Wedyn dyma fe'n gosod y bwrdd tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn.

23. A gosod y bara mewn trefn ar y bwrdd, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

24. Wedyn gosod y menora tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y Tabernacl.

25. Yna gosod y lampau yn eu lle arni, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

26. Wedyn rhoi'r allor aur (allor yr arogldarth) tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, o flaen y sgrîn,

27. a llosgi arogldarth persawrus arni, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

28. Wedyn gosod y sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.

29. Rhoddodd yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl hefyd, sef Pabell Presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

30. Wedyn gosod y ddysgl fawr rhwng Pabell Presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi hi gyda dŵr ar gyfer ymolchi.

31. Byddai Moses ac Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed gyda'r dŵr ynddi.

32. Bydden nhw'n ymolchi bob tro roedden nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw neu'n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

33. Wedyn dyma fe'n gosod yr iard o gwmpas y Tabernacl a'r allor, a rhoi'r sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard. Felly dyma Moses yn gorffen y gwaith.

Y cwmwl dros Babell Presenoldeb Duw

34. A dyma'r cwmwl yn dod i lawr dros Babell Presenoldeb Duw, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi (sef y Tabernacl.)

35. Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i'r babell o achos y cwmwl oedd wedi setlo arni, ac am fod ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi.

36. Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y Tabernacl, roedd pobl Israel yn mynd ymlaen ar eu taith.

37. Os nad oedd y cwmwl yn codi, doedden nhw ddim yn symud o'u lle.

38. Roedd cwmwl yr ARGLWYDD ar y Tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân yn y cwmwl drwy'r nos. Roedd pobl Israel i gyd yn gallu ei weld, yr holl amser buon nhw'n teithio.