Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 2 beibl.net 2015 (BNET)

Esther yn cael ei dewis yn frenhines yn lle Fasti

1. Beth amser wedyn pan oedd y Brenin Ahasferus wedi dod dros y cwbl, roedd yn meddwl am Fasti a beth wnaeth hi, ac am y gosb gafodd hi.

2. A dyma swyddogion y brenin yn dweud, “Dylid chwilio am ferched ifanc hardd i'ch mawrhydi.

3. Gellid penodi swyddogion drwy'r taleithiau i gyd i gasglu'r holl ferched ifanc hardd yn y deyrnas at ei gilydd i Shwshan. Wedyn gallai Hegai, yr eunuch sy'n gyfrifol am yr harîm, wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael triniaethau harddwch a coluron.

4. Ar ôl hynny gall y brenin ddewis y ferch sy'n ei blesio fwya i fod yn frenhines yn lle Fasti.” Roedd y brenin yn hoffi'r syniad, felly dyna wnaeth e.

5. Roedd yna Iddew o'r enw Mordecai yn byw yn Shwshan. Roedd yn perthyn i lwyth Benjamin, ac yn fab i Jair (mab Shimei ac ŵyr i Cish

6. oedd yn un o'r grŵp o bobl wnaeth Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu cymryd yn gaeth o Jerwsalem gyda Jehoiachin, brenin Jwda.)

7. Roedd Mordecai wedi magu ei gyfnither, Hadassa (sef Esther). Roedd ei thad a'i mam wedi marw, ac roedd Mordecai wedi ei mabwysiadu a'i magu fel petai'n ferch iddo fe ei hun. Roedd hi wedi tyfu'n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol.

8. Pan roddodd y brenin Ahasferus y gorchymyn i edrych am ferched hardd iddo, cafodd llawer iawn o ferched ifanc eu cymryd i gaer Shwshan, ac roedd Esther yn un ohonyn nhw. Cafodd hi a'r merched eraill eu cymryd i'r palas brenhinol, a'u rhoi dan ofal Hegai.

9. Gwnaeth Esther argraff ar Hegai o'r dechrau. Roedd e'n ei hoffi'n fawr, ac aeth ati ar unwaith i roi coluron iddi a bwyd arbennig, a rhoddodd saith morwyn wedi eu dewis o balas y brenin iddi. Yna rhoddodd yr ystafelloedd gorau yn llety'r harîm iddi hi a'i morynion.

10. Doedd Esther wedi dweud dim wrth neb am ei chefndir a'i theulu, am fod Mordecai wedi dweud wrthi am beidio.

11. Roedd yn awyddus iawn i wybod sut roedd hi'n dod yn ei blaen, a beth oedd yn digwydd iddi. Felly bob dydd byddai Mordecai'n cerdded yn ôl ac ymlaen wrth ymyl iard y tŷ lle roedd y merched yn byw.

12. Aeth blwyddyn gyfan heibio pan oedd y merched yn cael eu paratoi, cyn i'w tro nhw ddod i fynd at y Brenin Ahasferus. Roedd pob un ohonyn nhw yn gorfod mynd trwy driniaethau harddwch gyntaf – chwe mis pan oedd eu croen yn cael ei drin gydag olew olewydd a myrr, a chwe mis pan oedden nhw'n cael persawrau a coluron.

13. Dim ond wedyn y byddai merch yn barod i fynd at y brenin, a byddai'n cael gwisgo pa ddillad bynnag fyddai hi'n ei ddewis o lety'r harîm.

14. Byddai'n mynd ato gyda'r nos, ac yna'r bore wedyn yn mynd i ran arall o lety'r harîm, lle roedd cariadon y brenin yn aros, a Shaasgas, un o ystafellyddion y brenin yn gofalu amdanyn nhw. Fyddai'r merched yma ddim yn mynd yn ôl at y brenin oni bai fod y brenin wedi ei blesio'n fawr gan un ohonyn nhw ac yn gofyn yn benodol amdani.

15. Pan ddaeth tro Esther i fynd at y brenin, aeth hi a dim gyda hi ond beth oedd Hegai, oedd yn gofalu am y merched, wedi ei awgrymu iddi. Roedd pawb welodd hi yn meddwl ei bod hi'n hynod o hardd.

16. Felly dyma Esther yn mynd at y Brenin Ahasferus yn ei balas, yn y degfed mis (sef Tebeth) o'i seithfed flwyddyn fel brenin.

17. Roedd y brenin yn hoffi Esther fwy na'r merched eraill i gyd. Syrthiodd mewn cariad gyda hi, a'i choroni yn frenhines yn lle Fasti.

18. A dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd – gwledd Esther. A dyma fe'n cyhoeddi gwyliau cyhoeddus drwy'r taleithiau i gyd, a rhannu rhoddion i bawb ar ei gost ei hun.

Mordecai yn darganfod cynllwyn i ladd y brenin

19. Pan oedd y merched ifanc yn cael eu galw at ei gilydd am yr ail waith, roedd Mordecai wedi ei benodi'n swyddog yn y llys brenhinol.

20. Doedd Esther yn dal ddim wedi dweud dim am ei theulu a'i chefndir, fel roedd Mordecai wedi ei chynghori. Roedd hi'n dal yn ufuddhau iddo, fel roedd hi wedi gwneud ers pan oedd e'n ei magu hi.

21. Bryd hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd yn y llys, roedd dau o weision y brenin, Bigthan a Teresh, oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, wedi gwylltio ac yn cynllwynio i ladd y brenin Ahasferus.

22. Pan glywodd Mordecai am y cynllwyn, dwedodd am y peth wrth y Frenhines Esther, ac aeth Esther i ddweud wrth y brenin ar ei ran.

23. Dyma'r brenin yn cael ei swyddogion i ymchwilio i'r mater, a darganfod ei fod yn wir. Felly cafodd y ddau eu crogi. A dyma bopeth oedd wedi digwydd yn cael ei ysgrifennu o flaen y brenin yn sgrôl Cofnodion yr Ymerodraeth.