Gellid penodi swyddogion drwy'r taleithiau i gyd i gasglu'r holl ferched ifanc hardd yn y deyrnas at ei gilydd i Shwshan. Wedyn gallai Hegai, yr eunuch sy'n gyfrifol am yr harîm, wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael triniaethau harddwch a coluron.