Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 10 beibl.net 2015 (BNET)

Mordecai yn fwy a mwy enwog

1. Roedd y Brenin Ahasferus yn gwneud i bawb dalu trethi gorfodol – yr holl ffordd i'r arfordir a'r ynysoedd ar ymylon y deyrnas.

2. Mae'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, ei lwyddiannau milwrol, a'r datganiad am statws Mordecai pan roddodd y brenin ddyrchafiad iddo, wedi eu cofnodi yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Media a Persia.

3. Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i'r Iddewon ac yn cael ei edmygu'n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai'r cenedlaethau i ddod yn saff.