Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 5 beibl.net 2015 (BNET)

Gwledd gyntaf Esther

1. Ar y trydydd diwrnod o'i hympryd, dyma Esther yn gwisgo ei dillad brenhinol, a mynd i gyntedd mewnol y palas tu allan i neuadd y brenin. Roedd y brenin yno, yn eistedd ar ei orsedd gyferbyn â'r drws.

2. Pan welodd fod y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd tu allan, roedd e wrth ei fodd. Dyma fe'n estyn y deyrnwialen aur oedd yn ei law at Esther, a dyma hithau yn mynd ato ac yn cyffwrdd blaen y deyrnwialen.

3. A dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Y Frenhines Esther, beth alla i wneud i ti i? Beth wyt ti eisiau? Dw i'n fodlon rhoi hyd at hanner y deyrnas i ti!”

4. Dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, byddwn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod heddiw i wledd dw i wedi ei pharatoi.”

5. A dyma'r brenin yn gorchymyn, “Ewch i nôl Haman ar unwaith, i ni wneud beth mae Esther yn ei ofyn.” Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i'r wledd roedd Esther wedi ei pharatoi.

6. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Be fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”

7. A dyma Esther yn ateb, “Dyma beth faswn i'n hoffi:

8. Os ydw i wedi plesio'r brenin a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, baswn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod eto fory i wledd arall dw i wedi ei pharatoi. Gwna i ddweud wrth y brenin beth dw i eisiau bryd hynny.”

Haman eisiau lladd Mordecai

9. Aeth Haman i ffwrdd y diwrnod hwnnw yn teimlo'n rêl boi. Ond yna dyma fe'n gweld Mordecai yn y llys brenhinol yn gwrthod codi iddo na dangos parch ato. Roedd Haman wedi gwylltio'n lân. Roedd e'n berwi!

10. Ond dyma fe'n llwyddo i reoli ei dymer, ac aeth yn ei flaen adre.Ar ôl cyrraedd adre dyma fe'n galw ei ffrindiau at ei gilydd, a'i wraig Seresh.

11. A dyma fe'n dechrau brolio am ei gyfoeth mawr, y nifer o feibion oedd ganddo, a'r ffaith fod y brenin wedi ei anrhydeddu e a'i osod e'n uwch na'r swyddogion eraill i gyd.

12. Ac aeth ymlaen i ddweud, “A ces wahoddiad gan y Frenhines Esther i fynd gyda'r brenin i'r wledd roedd hi wedi ei pharatoi. Fi oedd yr unig un! A dw i wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl gyda'r brenin eto fory.

13. Ond fydda i byth yn hapus tra mae Mordecai yr Iddew yna yn dal yn ei swydd.”

14. Yna dyma'i wraig a'i ffrindiau i gyd yn dweud wrtho, “Adeilada grocbren anferth, dau ddeg pum metr o uchder. Yna bore fory, dos i ddweud wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Wedyn cei fynd i'r cinio gyda'r brenin, a mwynhau dy hun.”Roedd Haman yn meddwl fod hynny'n syniad gwych. A dyma fe'n trefnu i'r crocbren gael ei adeiladu.