Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 4 beibl.net 2015 (BNET)

Esther yn mentro'i bywyd i achub ei phobl

1. Pan glywodd Mordecai am y peth, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a rhoi lludw ar ei ben. Yna dyma fe'n mynd drwy'r ddinas yn gweiddi'n uchel mewn llais chwerw.

2. Ond aeth e ddim pellach na giât y palas – doedd neb yn cael mynd trwy'r giât honno yn gwisgo sachliain.

3. Drwy'r taleithiau i gyd, ble bynnag roedd datganiad a chyfraith y brenin yn cael ei chyhoeddi, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio ac yn wylo. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw'n gorwedd i gysgu ar sachliain a lludw.

4. Pan ddwedodd morynion ac ystafellyddion Esther wrthi am Mordecai, roedd hi wedi ypsetio'n ofnadwy. Dyma hi'n anfon dillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain, ond roedd yn gwrthod eu cymryd.

5. Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi ei benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai.

6. Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas.

7. A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i'r trysordy brenhinol petai'r Iddewon yn cael eu lladd.

8. A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi ei ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl.

9. Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi ei wneud.

10. Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho,

11. “Mae swyddogion a gweision y brenin drwy'r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae'r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy'n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad – mae'r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!”

12. Pan ddwedodd Hathach wrth Mordecai beth oedd Esther yn ei ddweud,

13. dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di'n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti'n byw yn y palas.

14. Os byddi di'n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a teulu dy dad yn marw. Falle mai dyma'n union pam rwyt ti wedi dod yn rhan o'r teulu brenhinol ar yr adeg yma!”

15. Yna dyma Esther yn anfon ateb yn ôl at Mordecai:

16. “Wnei di gasglu'r Iddewon sy'n byw yn Shwshan at ei gilydd a'i cael nhw i ymprydio drosta i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a'r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny'n golygu torri'r gyfraith. Dw i'n barod i farw os oes rhaid.”

17. Felly dyma Mordecai yn mynd ati i wneud popeth fel roedd Esther wedi dweud wrtho.