Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 8 beibl.net 2015 (BNET)

Mordecai yn cael dyrchafiad

1. Y diwrnod hwnnw, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi ystad Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther. Yna dyma Mordecai yn cael ei alw i sefyll o flaen y brenin (Roedd Esther wedi dweud wrth y brenin eu bod nhw'n perthyn.)

2. A dyma'r brenin yn cymryd ei sêl-fodrwy (sef yr un oedd Haman wedi bod yn ei gwisgo), a'i rhoi hi i Mordecai. Wedyn dyma Esther yn penodi Mordecai i redeg ystad Haman.

Deddf yn caniatáu i'r Iddewon amddiffyn eu hunain

3. Dyma Esther yn mynd i siarad â'r brenin eto. Syrthiodd wrth ei draed yn crïo, a crefu am drugaredd. Roedd ganddi eisiau iddo wrthdroi cynllun drwg Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.

4. A dyma'r brenin yn estyn ei deyrnwialen aur ati. Cododd Esther ar ei thraed o'i flaen

5. a gofyn iddo, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, ac os ydy e'n gweld yn dda i fod yn garedig ata i a rhoi i mi beth dw i eisiau, wnaiff e orchymyn mewn ysgrifen fod bwriad drwg Haman fab Hammedatha, yr Agagiad, i ladd pob Iddew drwy'r taleithiau i gyd, yn cael ei ddiddymu?

6. Sut alla i eistedd yn ôl a gwylio'r fath drychineb yn digwydd i'm pobl, a'm teulu i gyd yn cael eu lladd?”

7. A dyma'r Brenin Ahasferus yn dweud wrth y Frenhines Esther ac wrth Mordecai, “Dw i wedi rhoi ystad Haman i Esther, ac wedi crogi Haman am ei fod wedi bwriadu ymosod ar yr Iddewon.

8. A nawr cewch chi ysgrifennu ar fy rhan beth bynnag dych chi'n deimlo sy'n iawn i'w wneud gyda'r Iddewon, a selio'r ddogfen gyda fy sêl-fodrwy i. Mae'n amhosib newid deddf sydd wedi ei hysgrifennu yn enw'r brenin, ac wedi ei selio gyda'i sêl-fodrwy e.”

9. Felly ar y trydydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma nhw'n ysgrifennu popeth roedd Mordecai yn ei orchymyn – at yr Iddewon, ac at raglawiaid, llywodraethwyr a swyddogion pob talaith o India i Affrica (cant dau ddeg saith o daleithiau i gyd). Roedd llythyr pob talaith yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno, a'r llythyr at yr Iddewon yn eu hiaith nhw.

10. Roedd Mordecai yn ysgrifennu ar ran y Brenin Ahasferus, a cafodd y llythyrau eu selio gyda sêl-fodrwy y brenin. Yna dyma'r llythyrau yn cael eu dosbarthu gan negeswyr oedd yn marchogaeth y ceffylau cyflymaf yn y stablau brenhinol.

11. Rhoddodd y brenin ganiatád i'r Iddewon ddod at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Roedden nhw'n cael lladd a dinistrio milwyr unrhyw dalaith oedd yn ymosod arnyn nhw, lladd eu gwragedd a'u plant, a cymryd eu heiddo oddi arnyn nhw.

12. Roedd hyn i gyd i ddigwydd drwy bob talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, ar un diwrnod penodol, sef y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (Mis Adar).

13. Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth. Wedyn byddai'r Iddewon yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw, i ddial ar eu gelynion.

14. Dyma'r negeswyr yn rhuthro allan ar frys, ar gefn ceffylau o'r stablau brenhinol, a gorchymyn y brenin ganddyn nhw. Cafodd y gyfraith ei chyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan hefyd.

15. Pan aeth Mordecai allan oddi wrth y brenin, roedd wedi ei arwisgo mewn dillad brenhinol o borffor a gwyn. Roedd twrban euraid mawr ar ei ben, a mantell o liain main porffor ar ei ysgwyddau. Roedd pawb yn Shwshan yn dathlu,

16. ac roedd yr Iddewon wrth eu boddau ac yn cael eu parchu gan bawb.

17. Yn y taleithiau a'r trefi i gyd lle roedd gorchymyn y brenin wedi ei gyhoeddi, roedd yr Iddewon wedi cymryd gwyliau i ddathlu a gwledda. Ac roedd llawer o bobl eraill yn honni eu bod wedi troi'n Iddewon, am fod ganddyn nhw gymaint o ofn beth fyddai'r Iddewon yn ei wneud iddyn nhw.