Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i wledda gyda'r Frenhines Esther

2. am yr ail waith. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”

3. A dyma Esther yn ateb, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, arbed fy mywyd i a'm pobl. Dyna dw i eisiau.

4. Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a'n dinistrio'n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu'n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni'r brenin amdano.”

5. A dyma'r Brenin Ahasferus yn gofyn i Esther, “Pwy sydd wedi gwneud hyn? Pwy fyddai'n meiddio gwneud y fath beth?”

6. A dyma Esther yn ateb, “Dyn drwg ydy e sy'n ein casáu ni! Dyma fe – Haman!”Roedd Haman wedi dychryn am ei fywyd o flaen y brenin a'r frenhines.

7. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n codi o'r bwrdd a mynd allan i ardd y palas. Yna dyma Haman yn dechrau pledio ar y Frenhines Esther i arbed ei fywyd. Roedd yn gwybod y byddai'r brenin yn trefnu i'w ladd yn y ffordd fwya creulon.

8. Pan ddaeth y brenin yn ôl i mewn o'r ardd, roedd Haman yn taflu ei hun ar y soffa roedd Esther yn gorwedd arni. A dyma'r brenin yn gweiddi, “Ydy e am dreisio'r frenhines hefyd, a minnau'n dal yn yr adeilad!”Wrth i'r brenin ddweud hyn, dyma'i weision yn rhoi mwgwd dros ben Haman.

9. A dyma Harbona, un o'r gweision, yn dweud, “Mae Haman wedi adeiladu crocbren i grogi Mordecai, y dyn oedd wedi achub bywyd y brenin. Mae'r crocbren heb fod yn bell o'i dŷ, ac yn ddau ddeg pum metr o uchder.”A dyma'r brenin yn dweud, “Crogwch Haman arno!”

10. Felly cafodd Haman ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei fwriadu i Mordecai. Dyma dymer y brenin yn tawelu wedyn.