Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 1 beibl.net 2015 (BNET)

Elcana a'i deulu

1. Roedd yna ddyn o'r enw Elcana yn byw yn Rama ym mryniau Effraim. Roedd yn perthyn i deulu Swff, un o hen deuluoedd Effraim (Ierocham oedd ei dad, a hwnnw'n fab i Elihw, mab Tochw, mab Swff.)

2. Roedd gan Elcana ddwy wraig, Hanna a Penina. Roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna.

3. Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo i addoli a cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli.

4. Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai'n arfer rhoi cyfran o'r cig bob un i Penina a'i meibion a'i merched i gyd.

5. Ond byddai'n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am ei fod yn ei charu, er fod Duw wedi ei rhwystro hi rhag cael plant.

6. Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a'i phryfocio am ei bod yn methu cael plant.

7. Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw'n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crïo ac yn gwrthod bwyta.

8. A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti'n crïo a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?”

Hanna yn gweddïo am fab

9. Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna'n codi a mynd i weddïo. (Roedd Eli'r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd.)

10. Roedd hi'n torri ei chalon ac yn beichio crïo wrth weddïo ar yr ARGLWYDD.

11. A dyma hi'n addo i Dduw, “ARGLWYDD holl-bwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a peidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i'r ARGLWYDD am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.”

12. Buodd Hanna'n gweddïo'n hir ar yr ARGLWYDD, ac roedd Eli wedi sylwi arni.

13. Am ei bod hi'n gweddïo'n dawel, roedd e'n gweld ei gwefusau'n symud ond heb glywed dim, felly roedd e'n meddwl ei bod hi wedi meddwi.

14. A dwedodd wrthi, “Pam wyt ti'n meddwi fel yma? Rho'r gorau iddi! Sobra!”

15. Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD.

16. Paid meddwl amdana i fel gwraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i'n teimlo.”

17. “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.”

18. A dyma hi'n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach.

19. Bore drannoeth, dyma nhw'n codi ac addoli Duw cyn mynd adre'n ôl i Rama.Dyma Elcana'n cysgu gyda'i wraig, a cofiodd yr ARGLWYDD ei gweddi.

20. Daeth Hanna'n feichiog, a cyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cael mab. Galwodd e'n Samuel, am ei bod wedi gofyn i'r ARGLWYDD amdano.

Cysegru Samuel i'r ARGLWYDD

21. Daeth yn amser i Elcana a'i deulu fynd i Seilo unwaith eto, i aberthu a cyflawni addewid wnaeth e i Dduw.

22. Ond aeth Hanna ddim y tro yma. “Dw i ddim am fynd nes bydd y bachgen yn gallu gwneud heb y fron,” meddai wrth ei gŵr. “Gwna i fynd ag e wedyn a'i gyflwyno i'r ARGLWYDD, a bydd e'n aros yno o hynny ymlaen.”

23. Meddai Elcana, “Gwna di beth ti'n feddwl sydd orau. Aros nes bydd y bachgen ddim angen y fron, ond boed i Dduw dy gadw at dy addewid.” Felly arhosodd Hanna adre a magu'r plentyn nes ei fod ddim angen y fron.

24. Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â'r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tarw teirblwydd oed, llond sach o flawd, a photel groen o win gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e.

25. Wedi iddyn nhw ladd y tarw, dyma nhw'n mynd â'r bachgen at Eli.

26. Dyma Hanna yn cyfarch Eli a dweud, “Syr, wir i chi, fi ydy'r wraig oedd yn sefyll yma wrth eich ymyl chi yn gweddïo ar Dduw.

27. Am y bachgen yma roeddwn i'n gweddïo, ac mae Duw wedi ateb fy ngweddi!

28. Felly dw i'n ei roi e i'r ARGLWYDD. Dw i'n ei roi e i'r ARGLWYDD am weddill ei fywyd.”Yna dyma nhw'n addoli'r ARGLWYDD yno.