Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 6 beibl.net 2015 (BNET)

Y Philistiaid yn rhoi'r Arch yn ôl

1. Roedd Arch yr ARGLWYDD wedi bod yng ngwlad y Philistiaid am saith mis.

2. A dyma'r Philistiaid yn galw'r offeiriaid a'r rhai oedd yn dewino a gofyn iddyn nhw, “Be wnawn ni gydag Arch yr ARGLWYDD? Dwedwch wrthon ni sut ddylen ni ei hanfon yn ôl i'w lle ei hun.”

3. Dyma nhw'n ateb, “Os ydych chi am anfon Arch Duw Israel yn ôl, peidiwch gwneud hynny heb anfon rhywbeth hefo hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon offrwm i gyfaddef bai gyda hi. Fel yna cewch eich iacháu a chewch wybod pam wnaeth e eich cosbi chi.”

4. “Ond beth ddylen ni ei anfon fel offrwm i gyfaddef ein bai?” medden nhw.Atebodd yr offeiriaid, “Mae pump llywodraethwr gan y Philistiaid, a dych chi a nhw wedi eich taro gan yr un afiechyd. Felly gwnewch bump model aur o'r chwyddau a pump model o'r llygod

5. sy'n difa'r wlad, fel teyrnged i Dduw Israel. Falle y bydd e'n stopio'ch cosbi chi, a'ch duwiau a'ch gwlad.

6. Pam dylech chi fod yn ystyfnig fel y Pharo a phobl yr Aifft? Gwnaeth Duw ffyliaid ohonyn nhw, ac roedd rhaid iddyn nhw adael i bobl Israel fynd!

7. Felly, gwnewch wagen newydd sbon a gosod dwy fuwch sy'n magu lloi ac erioed wedi bod mewn harnais i'w thynnu. Cymerwch y lloi oddi arnyn nhw a'u rhoi yn y cwt.

8. Yna rhowch Arch Duw ar y wagen, a rhowch y pethau aur sy'n offrwm i gyfaddef bai mewn bocs wrth ei hochr. Yna gyrrwch y wagen i ffwrdd

9. a gwylio. Os bydd hi'n mynd adre i gyfeiriad tref Beth-shemesh, byddwn yn gwybod mai Duw Israel wnaeth anfon yr haint ofnadwy yma arnon ni. Ond os na fydd hi'n mynd y ffordd honno, yna byddwn yn gwybod mai nid fe wnaeth ein taro ni, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.”

10. A dyna wnaeth y Philistiaid. Dyma nhw'n cymryd dwy fuwch oedd yn magu lloi a'i clymu wrth wagen, a rhoi eu lloi mewn cwt.

11. Yna dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar y wagen, a'r bocs gyda'r llygod aur a'r modelau o'r chwyddau ynddo.

12. A dyma'r gwartheg yn mynd yn syth i gyfeiriad Beth-shemesh. Roedden nhw'n brefu wrth fynd, ond wnaethon nhw ddim troi oddi ar y ffordd o gwbl. Cerddodd llywodraethwyr y Philistiaid ar eu holau, nes cyrraedd cyrion Beth-shemesh.

13. Roedd pobl Beth-shemesh yn y dyffryn yn casglu'r cynhaeaf gwenith. Pan welon nhw'r Arch roedden nhw wrth eu boddau.

14. Daeth y wagen i stop wrth ymyl carreg fawr yng nghae Josua, un o ddynion Beth-shemesh. Dyma nhw'n torri'r wagen yn goed tân ac aberthu'r ddwy fuwch a'u llosgi yn offrwm i Dduw.

15. Daeth Lefiaid yno i godi'r Arch i lawr, a'r bocs oedd yn dal y modelau aur, a'u gosod nhw ar y garreg fawr. Ar y diwrnod hwnnw dyma bobl Beth-shemesh yn cyflwyno offrymau i'w llosgi'n llwyr ac aberthau i'r ARGLWYDD.

16. Arhosodd pump llywodraethwr y Philistiaid i wylio beth oedd yn digwydd, cyn mynd yn ôl i Ecron yr un diwrnod.

17. Roedd y chwyddau aur roddodd y Philistiaid i fod yn offrwm i gyfaddef eu bai i'r ARGLWYDD: un dros dref Ashdod, un dros Gasa, un dros Ashcelon, un dros Gath ac un dros Ecron.

18. Yna roedd yna lygoden aur ar gyfer pob un o drefi caerog llywodraethwyr y Philistiaid, a'r pentrefi gwledig o'u cwmpas hefyd.Mae'r garreg fawr y cafodd Arch Duw ei gosod arni yn dal yna yng nghae Josua hyd heddiw.

Symud yr Arch i Ciriath-iearim

19. Ond dyma rai o bobl Beth-shemesh yn cael eu taro gan yr ARGLWYDD, am eu bod nhw wedi edrych i mewn i Arch Duw. Buodd saith deg ohonyn nhw farw, ac roedd pobl Beth-shemesh yn galaru'n fawr am fod Duw wedi eu taro nhw mor galed.

20. “Pwy sy'n gallu sefyll o flaen yr ARGLWYDD, y Duw sanctaidd yma?” medden nhw. “At bwy ddylai'r Arch fynd o'r fan yma?”

21. Felly dyma nhw'n anfon neges i Ciriath-iearim, “Mae'r Philistiaid wedi anfon Arch yr ARGLWYDD yn ôl. Dewch i lawr i'w chymryd hi'n ôl.”