Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly dyma bobl Ciriath-iearim yn nôl Arch yr ARGLWYDD, a mynd â hi i ben y bryn i dŷ Abinadab. Yna dyma nhw'n cysegru Eleasar, ei fab e, i ofalu am yr Arch.

Samuel yn troi pobl Israel yn ôl at Dduw

2. Aeth y blynyddoedd heibio. Roedd hi tua dau ddeg o flynyddoedd ers i'r Arch ddod i Ciriath-iearim, ac roedd pobl Israel i gyd yn dyheu am yr ARGLWYDD eto.

3. Dwedodd Samuel wrth bobl Israel, “Os ydych chi wir am droi yn ôl at Dduw â'ch holl galon, taflwch allan eich duwiau eraill, a'r delwau sydd gynnoch chi o'r dduwies Ashtart. Rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, a'i addoli e a neb arall. Wedyn bydd e'n eich achub chi oddi wrth y Philistiaid.”

4. Felly dyma bobl Israel yn cael gwared â'r delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a dechrau addoli'r ARGLWYDD yn unig.

5. Dwedodd Samuel wrthyn nhw am gasglu pawb at ei gilydd yn Mitspa. “Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD trosoch chi,” meddai.

6. Wedi iddyn nhw ddod at ei gilydd yn Mitspa, dyma nhw'n codi dŵr o'r ffynnon a'i dywallt ar lawr fel offrwm i Dduw. Wnaethon nhw ddim bwyta trwy'r dydd. “Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD,” medden nhw. (A Samuel oedd yn arwain pobl Israel yn Mitspa.)

7. Clywodd y Philistiaid fod pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. Felly dyma lywodraethwyr y Philistiaid yn penderfynu ymosod arnyn nhw. Roedd pobl Israel wedi dychryn pan glywon nhw hyn.

8. Dyma nhw'n dweud wrth Samuel, “Dal ati i weddïo'n daer ar yr ARGLWYDD ein Duw, iddo'n hachub ni rhag y Philistiaid.”

9. Felly dyma Samuel yn cymryd oen sugno a'i losgi'n gyfan yn offrwm i Dduw. Roedd Samuel yn gweddïo dros Israel, a dyma Duw yn ateb.

10. Roedd y Philistiaid ar fin ymosod ar Israel wrth i Samuel gyflwyno'r offrwm. A'r foment honno dyma'r ARGLWYDD yn anfon anferth o storm daranau, wnaeth yrru'r Philistiaid i banig llwyr, a dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel.

11. Aeth dynion Israel allan o Mitspa ar eu holau, a lladd llawer iawn ohonyn nhw yr holl ffordd i'r ochr isaf i Beth-car.

12. Yna dyma Samuel yn gosod carreg i fyny rhwng Mitspa a'r clogwyn. Rhoddodd yr enw Ebeneser iddi (sef "Carreg Help"), a dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi'n helpu ni hyd yma.”

13. Roedd y Philistiaid wedi eu trechu, a wnaethon nhw ddim ymosod ar Israel eto.Tra roedd Samuel yn fyw roedd yr ARGLWYDD yn delio gyda'r Philistiaid.

14. Cafodd Israel y trefi roedd y Philistiaid wedi eu cymryd oddi arnyn nhw yn ôl, a'r tir o'u cwmpas nhw, o Ecron yn y gogledd i Gath yn y de. Roedd heddwch rhwng pobl Israel a'r Amoriaid.

15. Buodd Samuel yn arwain Israel am weddill ei fywyd.

16. Bob blwyddyn byddai'n mynd ar gylchdaith o Bethel i Gilgal ac yna i Mitspa. Byddai'n cynnal llys ym mhob tref yn ei thro

17. cyn mynd yn ôl adre i Rama. Dyna lle roedd yn byw, ac o'r fan honno roedd e'n arwain Israel. Roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD yno hefyd.