Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 12 beibl.net 2015 (BNET)

Araith olaf Samuel

1. Dyma Samuel yn dweud wrth bobl Israel: “Edrychwch, dw i wedi gwneud popeth dych chi wedi ei ofyn, ac wedi rhoi brenin i chi.

2. O hyn ymlaen, y brenin fydd yn eich arwain chi. Dw i'n hen ŵr a'm gwallt yn wyn, ac mae fy meibion i gynnoch chi. Dw i wedi eich arwain chi ers pan oeddwn i yn ifanc.

3. Dyma fi. Dewch, cyhuddwch fi o flaen yr ARGLWYDD a'r un mae e wedi ei eneinio'n frenin. Ydw i wedi cymryd ychen rhywun? Ydw i wedi cymryd asyn rhywun? Ydw i wedi twyllo unrhyw un? Ydw i wedi gwneud i unrhyw un ddioddef? Ydw i wedi derbyn breib gan unrhyw un i gau fy llygaid i ryw ddrwg? Dwedwch wrtho i. Gwna i dalu'r cwbl yn ôl.”

4. Ond dyma nhw'n ateb, “Na, dwyt ti ddim wedi'n twyllo ni, na gwneud i ni ddioddef, na chymryd dim gan unrhyw un.”

5. Yna dyma Samuel yn dweud, “Mae ARGLWYDD yn dyst heddiw, a'r brenin ddewisodd e, eich bod chi wedi cael hyd i ddim byd o gwbl yn fy erbyn i.” “Ydy, mae e'n dyst,” medden nhw.

6. Yna dyma Samuel yn mynd ymlaen i ddweud wrth y bobl. “Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis Moses ac Aaron, ac arwain eich hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft.

7. Safwch mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD i mi gael rhoi siars i chi. Mae'r ARGLWYDD wedi bod mor deg bob amser yn y ffordd mae wedi eich trin chi a'ch hynafiaid.

8. Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma.

9. Ond dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw. Felly dyma Duw yn gadael i Sisera, capten byddin Chatsor, a'r Philistiaid, a brenin Moab eu cam-drin nhw. Daeth y rhain i ryfela yn eu herbyn nhw.

10. Felly dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD eto, a dweud: ‘Ein bai ni ydy hyn. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti ARGLWYDD ac wedi mynd i addoli eilunod Baal a delwau o'r dduwies Ashtart. Plîs achub ni nawr o afael ein gelynion a byddwn ni'n dy addoli di.’

11. Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon Gideon, Barac, Jefftha a fi, Samuel, i'ch achub chi oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, fel eich bod chi'n saff.

12. “Ond pan welsoch chi fod Nachash, brenin Ammon, yn mynd i ymosod arnoch chi, dyma chi'n dweud wrtho i, ‘Na! Dŷn ni eisiau brenin’ – pan oedd yr ARGLWYDD eich Duw i fod yn frenin arnoch chi!

13. Felly dyma chi! Dyma'r brenin dych chi wedi ei ddewis, yr un wnaethoch chi ofyn amdano! Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chi!

14. “Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn.

15. Ond os wnewch chi ddim gwrando, a gwrthod bod yn ufudd, yna bydd yr ARGLWYDD yn eich cosbi chi a'r brenin.

16. “Nawr, safwch yma i weld rhywbeth anhygoel mae'r ARGLWYDD yn mynd i'w wneud o flaen eich llygaid chi.

17. Y tymor sych ydy hi ynte? Dw i'n mynd i weddïo ar Dduw, a gofyn iddo anfon glaw a tharanau! Byddwch chi'n sylweddoli wedyn peth mor ddrwg yng ngolwg Duw oedd gofyn am frenin.”

18. Yna dyma Samuel yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A'r diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDDyn anfon glaw a tharanau. Felly roedd gan y bobl i gyd ofn yr ARGLWYDD a Samuel.

19. Ac medden nhw wrtho, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni, rhag i ni farw. Dŷn ni wedi gwneud mwy fyth o ddrwg drwy ofyn am frenin.”

20. Dyma Samuel yn ateb y bobl, “Peidiwch bod ofn, er bod chi wedi gwneud yr holl bethau drwg yma. Peidiwch troi cefn ar yr ARGLWYDD. Addolwch e â'ch holl galon.

21. Peidiwch â'i adael a mynd ar ôl rhyw ddelwau diwerth. All y rheiny ddim helpu nac achub neb. Dŷn nhw'n dda i ddim!

22. Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis eich gwneud chi'n bobl iddo fe'i hun, felly fydd e ddim yn troi cefn arnoch chi. Mae e eisiau cadw ei enw da.

23. Ac o'm rhan i fy hun, fyddwn i byth yn meiddio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy beidio gweddïo drosoch chi. Bydda i'n eich dysgu chi i fyw yn y ffordd iawn:

24. Cofiwch barchu'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifri â'ch holl galon. Meddyliwch am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi eu gwneud i chi!

25. Ond os byddwch chi'n dal ati i wneud drwg, bydd hi ar ben arnoch chi a'ch brenin.”