Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 29 beibl.net 2015 (BNET)

Y Philistiaid yn gwrthod help Dafydd

1. Roedd byddin y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Affec, ac roedd Israel wedi codi gwersyll wrth y ffynnon yn Jesreel.

2. Roedd llywodraethwyr y Philistiaid yn archwilio eu hunedau milwrol (unedau o gannoedd a miloedd). Yn y cefn roedd Dafydd a'i ddynion yn cael eu harchwilio gydag unedau Achis.

3. “Pwy ydy'r Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e wrth gwrs,” meddai Achis wrthyn nhw. “Roedd yn arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y daeth e drosodd aton ni.”

4. Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achis, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda pennau'r dynion yma?

5. Onid hwn ydy'r Dafydd roedden nhw'n canu amdano wrth ddawnsio,‘Mae Saul wedi lladd miloedd,ond Dafydd ddegau o filoedd’?”

6. Felly dyma Achis yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael di'n mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydy'r arweinwyr eraill ddim yn hapus.

7. Felly, dos yn ôl heb wneud ffws. Paid gwneud dim byd i'w pechu nhw.”

8. “Ond be dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai Dafydd. “O'r diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wedi ei gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?”

9. Dyma Achis yn ateb, “Dw i'n gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw.

10. Felly, coda'n gynnar bore fory, ti a gweision dy feistr sydd gyda ti. Gallwch fynd cyn gynted ag y bydd hi'n olau.”

11. Dyma Dafydd a'i ddynion yn codi ben bore, a mynd yn ôl i wlad y Philistiaid. Ac aeth y Philistiaid i fyny i Jesreel.