Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 4 beibl.net 2015 (BNET)

Ruth a Boas yn priodi a chael mab

1. Aeth Boas i'r llys wrth giât y dre ac eistedd yno. Cyn hir dyma'r perthynas agos roedd e wedi sôn wrth Ruth amdano yn dod heibio. “Gyfaill, tyrd yma,” galwodd Boas arno. “Tyrd i eistedd yma wrth fy ymyl i.” A dyma fe'n dod ac eistedd.

2. Wedyn dyma Boas yn cael gafael ar ddeg o arweinwyr y dre, a'u cael nhw hefyd i eistedd gydag e.

3. Wedyn dyma fe'n dweud wrth y perthynas agos, “Mae Naomi wedi dod yn ôl o wlad Moab, ac mae hi'n gwerthu'r darn o dir oedd gan Elimelech, ein perthynas ni.

4. Roeddwn yn meddwl y dylwn adael i ti wybod, i ti ddweud o flaen y bobl a'r arweinwyr sydd yma os wyt ti am ei brynu. Os wyt ti eisiau ei brynu e, cymera fe, os nad wyt ti gad i mi wybod. Gen ti mae'r hawl cyntaf, ac yna fi ar dy ôl di.”A dyma'r perthynas yn ateb, “Ydw, dw i am ei brynu.”

5. Wedyn dyma Boas yn dweud, “Pan fyddi di'n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw'r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.”

6. “Alla i ddim ei brynu felly,” meddai'r perthynas, “neu bydda i'n difetha fy etifeddiaeth fy hun. Cymer di'r cyfrifoldeb i'w brynu. Alla i ddim.”

7. (Dyma oedd y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall. Dyna oedd y ffordd yn Israel o gadarnhau y cytundeb.)

8. Felly, dyma'r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di'r hawl i'w brynu,” a dyma fe'n tynnu ei sandal a'i rhoi i Boas.

9. Felly dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon.

10. Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi er mwyn codi etifedd i gadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, rhag i'r enw ddiflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn, heddiw!”

11. A dyma'r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni'n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy'n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem.

12. A thrwy'r ferch ifanc yma mae e wedi ei rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fe teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.”

13. Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab.

14. A dyma'r gwragedd yn dweud wrth Naomi, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e'n enwog yn Israel.

15. Bydd e'n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e'n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy'n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo – ac mae hi'n well na saith mab i ti!”

16. A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei glin a'i fagu.

17. Dyma'r gwragedd lleol yn rhoi'r enw Obed iddo, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!”Obed oedd tad Jesse a thaid y brenin Dafydd.

Achau y Brenin Dafydd

18. Dyma ddisgynyddion Perets:Perets oedd tad Hesron,

19. Hesron oedd tad Ram,Ram oedd tad Aminadab,

20. Aminadab oedd tad Nachshon,Nachshon oedd tad Salmon,

21. Salmon oedd tad Boas,Boas oedd tad Obed,

22. Obed oedd tad Jesse,a Jesse oedd tad Dafydd.