Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 23 beibl.net 2015 (BNET)

Dafydd a'i filwyr yn amddiffyn tref Ceila

1. Clywodd Dafydd fod y Philistiaid wedi ymosod ar Ceila, ac yn dwyn ŷd o'r lloriau dyrnu.

2. A dyma fe'n gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymosod ar y Philistiaid yma?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos. Ymosod ar y Philistiaid ac achub Ceila.”

3. Ond dyma ddynion Dafydd yn dweud wrtho, “Mae arnon ni ddigon o ofn yma yn Jwda! Sut fydd hi os awn ni i Ceila i ymladd yn erbyn byddin y Philistiaid?”

4. Aeth Dafydd i ofyn i'r ARGLWYDD eto. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r un ateb iddo, “Cod, a dos i lawr i Ceila, achos bydda i'n gwneud i ti ennill y frwydr yn erbyn y Philistiad.”

5. Felly dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd i Ceila ac ymladd yn erbyn y Philistiaid, a dwyn eu gwartheg nhw. Roedd lladdfa ofnadwy, ond llwyddodd Dafydd i achub pobl Ceila.

6. Pan oedd Abiathar, mab Achimelech, wedi dianc at Dafydd, roedd wedi dod ag effod gydag e.

7. Clywodd Saul fod Dafydd wedi dod i Ceila, a dwedodd, “Mae Duw wedi ei roi e yn fy nwylo i! Mae e wedi cau ei hun mewn trap drwy fynd i dref sydd â giatiau dwbl a barrau i'w cloi.”

8. Felly dyma Saul yn galw ei fyddin gyfan at ei gilydd, i fynd i Ceila i warchae ar Dafydd a'i ddynion.

9. Pan glywodd Dafydd fod Saul yn cynllunio i ymosod arno, dyma fe'n galw ar Abiathar yr offeiriad, “Tyrd â'r effod yma.”

10. Yna dyma fe'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, dw i wedi clywed fod Saul yn bwriadu dod yma i Ceila i ddinistrio'r dre am fy mod i yma.

11. Fydd awdurdodau'r dre yn fy rhoi yn ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.”A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae e yn dod.”

12. A dyma Dafydd yn gofyn, “Fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm dynion i Saul?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Byddan.”

13. Felly dyma Dafydd a'i ddynion (tua 600 ohonyn nhw i gyd) yn gadael Ceila ar unwaith. Roedden nhw'n symud o le i le. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, dyma fe'n rhoi'r gorau i'w fwriad i ymosod ar y dre.

Dafydd yn cuddio yn y bryniau

14. Bu Dafydd yn cuddio mewn lleoedd saff yn yr anialwch, ac yn y bryniau o gwmpas Siff. Roedd Saul yn chwilio amdano trwy'r amser. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo ei ddal.

15. Pan oedd Dafydd yn Horesh yn anialwch Siff, roedd ganddo ofn am fod Saul wedi dod yno i geisio ei ladd e.

16. Dyma Jonathan, mab Saul, yn mynd draw i Horesh at Dafydd i'w annog i drystio Duw.

17. Dwedodd wrtho, “Paid bod ag ofn! Fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd i ti. Ti fydd brenin Israel a bydda i'n ddirprwy i ti. Mae dad yn gwybod hyn yn iawn.”

18. Ar ôl i'r ddau ymrwymo o flaen yr ARGLWYDD i fod yn ffyddlon i'w gilydd, dyma Dafydd yn aros yn Horesh ac aeth Jonathan adre.

19. Aeth rhai o bobl Siff at Saul i Gibea a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Dafydd yn cuddio wrth ein hymyl ni? Mae yn y cuddfannau wrth Horesh, ar Fryn Hachila i'r de o Jeshimon.

20. Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn ni'n gyfrifol am ei roi e yn dy afael di.”

21. “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi!” meddai Saul.

22. “Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a pwy sydd wedi ei weld e yno. Maen nhw'n dweud i mi ei fod yn un cyfrwys.

23. Ffeindiwch allan lle yn union mae e'n cuddio. Pan fyddwch chi'n berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda i'n dod gyda chi. Bydda i yn dod o hyd iddo ble bynnag mae e yng nghanol pobl Jwda i gyd.”

24. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd a'i ddynion yn anialwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jeshimon.

25. A dyma Saul a'i ddynion yn mynd i chwilio amdano. Ond dyma Dafydd yn cael gwybod, ac aeth i lawr i le o'r enw Y Graig, ac aros yno yn anialwch Maon.

26. Clywodd Saul am hyn ac aeth ar ôl Dafydd i anialwch Maon.Roedd Saul un ochr i'r mynydd pan oedd Dafydd a'i ddynion yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i geisio osgoi Saul, ond roedd Saul a'i filwyr ar fin amgylchynu Dafydd a'i ddynion a'i dal nhw.

27. Ond yna daeth neges yn dweud wrth Saul am frysio'n ôl adre am fod y Philistiaid wedi ymosod ar y wlad.

28. Felly roedd rhaid i Saul stopio mynd ar ôl Dafydd a mynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid. (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Graig y Gwahanu.)

29. Yna aeth Dafydd i fyny oddi yno ac aros mewn lle saff yn En-gedi.