Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Aphan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr.

2. Ac mi a welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gerbron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o utgyrn.

3. Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd gerbron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd gerbron yr orseddfainc.

4. Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau'r saint, o law yr angel i fyny gerbron Duw.

5. A'r angel a gymerth y thuser, ac a'i llanwodd hi o dân yr allor, ac a'i bwriodd i'r ddaear: a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daeargryn.

6. A'r saith angel, y rhai oedd â'r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu.

7. A'r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a'r holl laswellt a losgwyd.

8. A'r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i'r môr: a thraean y môr a aeth yn waed;

9. A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd.

10. A'r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau'r dyfroedd;

11. Ac enw'r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon.

12. A'r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a'r nos yr un ffunud.

13. Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel, y rhai sydd eto i utganu!