Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac mi a welais angel cryf arall yn disgyn o'r nef, wedi ei wisgo â chwmwl: ac enfys oedd ar ei ben, a'i wyneb ydoedd fel yr haul, a'i draed fel colofnau o dân:

2. Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd. Ac efe a osododd ei droed deau ar y môr, a'i aswy ar y tir;

3. Ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau.

4. Ac wedi darfod i'r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr ysgrifennu: ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Selia'r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.

5. A'r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr, ac ar y tir, a gododd ei law i'r nef,

6. Ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach:

7. Ond yn nyddiau llef y seithfed angel, pan ddechreuo efe utganu, gorffennir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe i'w wasanaethwyr y proffwydi.

8. A'r llef a glywais o'r nef, a lefarodd drachefn wrthyf, ac a ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw'r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tir.

9. Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi'r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.

10. Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law'r angel, ac a'i bwyteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys: ac wedi imi ei fwyta ef, fy mol a aeth yn chwerw.

11. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd, a chenhedloedd, ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.