Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Arhyfeddod mawr a welwyd yn y nef; gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren:

2. A hi'n feichiog, a lefodd, gan fod mewn gwewyr, a gofid i esgor.

3. A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef; ac wele ddraig goch fawr, a saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron.

4. A'i chynffon hi a dynnodd draean sêr y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.

5. A hi a esgorodd ar fab gwryw, yr hwn oedd i fugeilio'r holl genhedloedd â gwialen haearn: a'i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw, ac at ei orseddfainc ef.

6. A'r wraig a ffodd i'r diffeithwch, lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri ugain o ddyddiau.

7. A bu rhyfel yn y nef: Michael a'i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfelodd a'i hangylion hithau,

8. Ac ni orfuant; a'u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef.

9. A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo'r holl fyd: efe a fwriwyd allan i'r ddaear, a'i angylion a fwriwyd allan gydag ef.

10. Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos.

11. A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angau.

12. Oherwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, a'r môr! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser.

13. A phan welodd y ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab.

14. A rhoddwyd i'r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i'r diffeithwch, i'w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff.

15. A'r sarff a fwriodd allan o'i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda'r afon.

16. A'r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a'r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o'i safn.

17. A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â'r lleill o'i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.