Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A'r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a'r allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddi.

2. Ond y cyntedd sydd o'r tu allan i'r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i'r Cenhedloedd: a'r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain.

3. Ac mi a roddaf allu i'm dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain.

4. Y rhai hyn yw'r ddwy olewydden, a'r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw'r ddaear.

5. Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae'n rhaid ei ladd ef.

6. Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau'r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro'r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.

7. A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt.

8. A'u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a'r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni.

9. A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau.

10. A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i'w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni'r rhai oedd yn trigo ar y ddaear.

11. Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'u gwelodd hwynt.

12. A hwy a glywsant lef uchel o'r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl; a'u gelynion a edrychasant arnynt.

13. Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a'r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef.

14. Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae'r drydedd wae yn dyfod ar frys.

15. A'r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.

16. A'r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,

17. Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist.

18. A'r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a'r amser i farnu'r meirw, ac i roi gwobr i'th wasanaethwyr y proffwydi, ac i'r saint, ac i'r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha'r rhai sydd yn difetha'r ddaear.

19. Ac agorwyd teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.