Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A daeth un o'r saith angel oedd â'r saith ffiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthyf, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer;

2. Gyda'r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi.

3. Ac efe a'm dygodd i i'r diffeithwch yn yr ysbryd: ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn llawn o enwau cabledd, a saith ben iddo, a deg corn.

4. A'r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra.

5. Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA'R DDAEAR.

6. Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr.

7. A'r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a'r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â'r saith ben ganddo, a'r deg corn.

8. Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o'r pydew heb waelod, a myned i ddistryw: a rhyfeddu a wna'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod.

9. Dyma'r meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae'r wraig yn eistedd arnynt.

10. Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a'r llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig.

11. A'r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw'r wythfed, ac o'r saith y mae, ac i ddistryw y mae'n myned.

12. A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto; eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda'r bwystfil.

13. Yr un meddwl sydd i'r rhai hyn, a hwy a roddant eu nerth a'u hawdurdod i'r bwystfil.

14. Y rhai hyn a ryfelant â'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a'r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon.

15. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd a welaist, lle mae'r butain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd.

16. A'r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a'i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a'i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a'i llosgant hi â thân.

17. Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i'r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw.

18. A'r wraig a welaist, yw'r ddinas fawr, sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear.