Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac mi a welais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo agoriad y pydew diwaelod, a chadwyn fawr yn ei law.

2. Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac a'i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd,

3. Ac a'i bwriodd ef i'r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe'r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni'r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser.

4. Ac mi a welais orseddfeinciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau'r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a'r rhai nid addolasent y bwystfil na'i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd.

5. Eithr y lleill o'r meirw ni fuant fyw drachefn, nes cyflawni'r mil blynyddoedd. Dyma'r atgyfodiad cyntaf.

6. Gwynfydedig a sanctaidd yw'r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i'r ail farwolaeth awdurdod arnynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.

7. A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar;

8. Ac efe a â allan i dwyllo'r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr.

9. A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a'r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o'r nef, ac a'u hysodd hwynt.

10. A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle y mae'r bwystfil a'r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd.

11. Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt.

12. Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.

13. A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd.

14. A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i'r llyn o dân. Hon yw'r ail farwolaeth.

15. A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân.